Cyfeiriad IP: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
Symud allan o barth defnyddiwr. Gweler https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=IP_address&oldid=569656390 am y testun gwreiddiol (paragraffau agoriadol o'r erthygl Saesneg)
 
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Label rhifiadol yw '''Internet Protocol address''' ('''IP address'''; Cymraeg: ''cyfeiriad IP'') a drosglwyddir i bob dyfais sy'n cymryd rhan mewn [[rhwydwaith cyfrifiaduron|rwydwaith cyfrifiaduron]] sy'n defnyddio'r [[Protocol Rhyngrwyd]] (''Internet Protocol'') ar gyfer cyfathrebu.<ref name=rfc760>RFC 760, ''DOD Standard Internet Protocol'' (Ionawr 1980)</ref> Mae cyfeiriad IP yn gwasanaethu dau brif bwrpas: [[Adnabyddiaeth (gwybodaeth)|adnabyddiaeth]] rhyngwyneb gwesteiwr neu rwydwaith a [[cyfeiriad rhesymegol|chyfeiriadu]] lleoliad. Nodweddir ei rôl fel a ganlyn: "''Mae [[enw gwesteiwr|enw]] yn dangos yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano. Mae cyfeiriad yn dangos ble mae ef. Mae llwybr yn dangos sut i fynd ati i gyrraedd yna.''" (''A name indicates what we seek. An address indicates where it is. A route indicates how to get there.'')<ref name=rfc791>RFC 791, ''Internet Protocol – DARPA Internet Program Protocol Specification'' (Tachwedd 1981)</ref>
 
Diffiniodd cynllunyddion y Protocol Rhyngrwyd gyfeiriad IP fel rhif [[32 beit]]<ref name=rfc760 /> a defnyddir y sustem hwn, a adnabyddir fel [[IPv4|Internet Protocol version 4]] (Protocol Rhyngrwyd fersiwn 4) eto heddiw. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd enfawr y [[rhyngrwyd]] a'r [[gwacâd cyfeiriadau IPv4|gwacâd o gyfeiriadau]] disgwyliedig, datblygwyd fersiwn newydd o IP ([[IPv6]]) ym 1995 sy'n defnyddio 128 beit ar gyfer y cyfeiriad.<ref name=rfc1883>RFC 1883, ''Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification'', S. Deering, R. Hinden (Rhagfyr 1995)</ref> Safonwyd IPv6 fel RFC 2460 ym 1998<ref name =rfc2460>RFC 2460, ''Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification'', S. Deering, R. Hinden, The Internet Society (Rhagfyr 1998)</ref> ac mae ei [[cyflwyniad IPv6|gyflwyniad]] wedi bod ar y gweill ers canol y 2000au.