Rig Veda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 55 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q727413 (translate me)
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
B pennawd lefel 2
Llinell 4:
Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|iaith Indo-Ewropeaidd]], er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y [[Sapta Sindhu]] (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y [[Punjab]] ym [[Pakistan|Mhakistan]] a gogledd-orllewin [[India]], tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r [[Avesta]] [[Iran]]aidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant [[Andronovo]] o tua 2000 CC. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod cysylltiad rhwng y Rig Veda a [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]] hefyd.
 
=== Cynnwys ===
Rhennir y gwaith yn ddeg ''[[mandala]]'' neu adran. Ceir 1017 neu 1028 o emynau, gan ddibynnu ar y casgliad. Mae rhai o'r ''mandalas'' ac emynau hyn yn cael eu priodoli i ddoethion traddodiadol (''[[rishi]]s'') ac eraill yn gysegredig i rai o brif dduwiau'r pantheon Vedig, yn enwedig [[Indra]] sy'n lladd ei wrthwynebydd drygionus [[Vrtra]], [[Agni]] (y tân sanctaidd) a [[Vayu]] neu Vata (y Gwynt). Ceir cryn bwyslais ar ''[[soma]]'' hefyd, yr hylif a phlanhigyn sy'n ganolog i addoliad Vedig. Cyfeirir hefyd at sawl dduw neu dduwies arall fel yr [[Adityas]], [[Mitra-Varuna]], [[Ushas]] (y Wawr), [[Savitri]], [[Vishnu]], [[Rudra]], [[Pushan]], a'r doethwr [[Brihaspati]] neu Brahmanaspati. Duwiolir sawl ffenomen naturiol fel [[Dyaus Pita]] (duw'r Awyr, sy'n cyfateb i [[Zeus|Zeus Pater]] y [[Groeg]]iaid gynt), [[Prithivi]] (Duwies y Ddaear), [[Surya]] (duw'r Haul), Vayu (y gwynt), [[Apas]] (y dyfroedd), [[Parjanya]] (mellt a tharanau), a sawl afon (yn enwedig y ''Sapta Sindhu'' ac [[Afon Sarasvati]]).
 
Llinell 11:
Mae'r Rig Veda ei hun yn perthyn i gasgliad ehangach o destunau a elwir y Veda. Y prif Veda eraill yw'r ''[[Sama Veda]]'', y ''[[Yajur Veda]]'' a'r ''[[Atharva Veda]]''. Yn ogystal ceir testunau sy'n deillio o'r gweithiau hyn neu'n dibynnu arnynt, megis rhai o'r ''[[Brahmana]]s''.
 
=== Cyfieithiadau ===
Cyfieithwyd y Rig Veda, neu ddarnau ohono, i sawl iaith, ond nid oes cyfieithiad Cymraeg eto. Yn India ceir cyfieithiadau neu fersiynau [[Hindi]]. Y cyfieithiad clasurol yn Saesneg yw'r un gan [[Ralph Thomas Hotchkin Griffith|Ralph T. H. Griffith]], ysgolhaig dwyreiniol o dras Gymreig, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1889-92:
* Ralph T. H. Griffith (gol.), ''Hymns of the Rigveda'' (Llundain, 1889-92). Adargraffwyd mewn dwy gyfrol gan Munshiram Manohorlal, Delhi, 1999.