Gwyddoniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 71:
 
===Trafnidiaeth===
Pe bai'n fyw, byddai'r gwneuthurwr ceir ac awyrennwr [[Charles Stewart Rolls]] ([[27 Awst]] [[1877]] – [[12 Gorffennaf]] [[1910]]) o [[Trefynwy|Drefynwy]]'n ymfalchio yn y ffaith fod yng Nghymru ddau o weithfeydd awyrlongau mwya'r byd. Mae'r sector awyrofod wedi tyfu ers gwaith arloesol Rolls (sefydlydd y cwmni Rolls Royce): mae holl adenydd ar gyfer pob un o awyrennau {{[[Airbus]] wedi'u cynhyrchu ym [[Brychdyn|Mrychdyn]], ger [[Wrecsam]] ers 2002 pan ddechreuodd ar adenyddion yr A380.
 
Ym 1962 cychwynnwyd y gwasanaeth rheolaidd cyntaf yn y byd ar [[hofrenfad]] (neu long hofran) a hynny rhwng y [[Rhyl]] a [[Lerpwl]]. Ar yr un gwynt, cychwynwyd gwasanaeth rheolaidd cynta'r byd gan [[hofrennydd]] rhwng Caerdydd, Wrecsam a Lerpwl ym 1950.<ref>Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010; tudalennau 53-55.</ref>
 
Yma hefyd, ym 1904, y gwnaed siwrnai [[trên]] cynta'r byd a hynny ym [[Merthyr Tudful]], diolch i [[Richard Trevithick]]. Mae Adran Peirianneg Sifil Prifysgol Abertawe'n torri tir newydd o ran cyflymder cerbyn tir. Maent wedi Car Uwchsonig Thrust drwy ddefnyddio uwchgyfrifiadur Cray a phrofwyd ei allu ym [[Pentwyn, Caerdydd|Mhentwyn]] ym 1997 pan gyrhaeddodd y car gyflymdra o 763mya.
 
==Cyfeiriadau==