Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q13128800
manion, categoriau
Llinell 1:
[[Dyneiddiaeth|Dyneiddiwr]] a [[gramadeg]]ydd [[Cymraeg]] oedd '''Gruffydd Robert''' (cyn [[1531]] - ar ôl [[1598]]). Mae'n fwyaf enwog am ysgrifennu [[gramadeg]] [[Cymraeg]] mewn chwe rhan, un o ramadegau cyntaf yr iaith Gymraeg, a'r un cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith ei hun.
 
==Ei fywyd==
Roedd yn hanfod o ogledd Cymru, naill ai o [[Dyffryn Clwyd|Ddyffryn Clwyd]] neu o [[Ynys Môn]]. Cafodd radd M.A. o [[Eglwys Crist, Rhydychen]] ym [[1555]], cyn cymryd swydd fel archddiacon Môn ym [[1558]]. Ar fuan ar ôl ei benodiad, bu farw y frenhines [[Mair I o Loegr]]. Ailgyflwynwyd [[Protestaniaeth]] yng Nghymru a Lloegr gyda [[Deddf Goruchafiaeth]] (1559), ond arhosodd [[Catholigiaeth]] yn gryf yng Nghymru, a Gruffydd ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r hen grefydd.<ref>G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
Aeth i'r cyfandir gyda [[Morys Clynnog]], gan dreulio dwy flynedd efallai gydag yntau yn [[Louvain]]. Mae'n bosib iddo ddeithio yn rhannau eraill o'r cyfandir yr adeg honno, megis [[Ffrainc]] a'r [[Almaen]]. Erbyn mis Ionawr [[1564]] roedd Gruffydd Robert a Morys Clynnog wedi dod yn gaplaniaid yn yr [[Ysbyty Seisnig]] yn [[Rhufain]]. Roedd [[Thomas Goldwell]], esgob [[Llanelwy]] wedi cael ei benodi'n warden yno ym [[1561]], ac felly mae'n posib iddo fod wedi eu gwahodd yno. Erbyn [[1567]], pryd cyhoeddwyd rhan gyntaf ei ramadeg, roedd Gruffydd yn cael ei gyflogi gan Cardinal [[Carlo Borromeo]], Archesgob Milan. Cyfeirir at Gruffydd fel ''doctor'' gan [[Anthony Munday]] a [[Morris Kyffin]]. Gallasai ef fod wedi derbyn doethuriaeth yn [[Louvain]] neu gan Borromeo yn Milan. Roedd yn gyffeswr i Borromeo ac yn ganon duwinyddol yn Eglwys Gadeiriol Milan. Yn ystod pla [[1567]] gweithiodd ef fel cynorthwy-ydd yn mynd allan i ddosbarthu elusennau gyda Borromeo. Arhosodd yn Milan am bron ugain mlynedd yng ngwasaneth Borromeo. Ym [[1582]], gofynnodd Gruffydd am gael ymddiswyddo fel canon duwinyddol ond am gael swydd arall, mae'n debyg, am nad oedd ei Eidaleg yn ddigon rhugl i bregethu ynddi. Doedd dim canoniaeth arall yn wag, felly cafodd bensiwn ym [[1594]]. Ar ôl marwolaeth Borromeo ym mis Tachwedd [[1584]], cafodd fwy o hamdden i weithio ar ei ramadeg.<ref>G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
==Ei ramadeg==
Cyhoeddwyd rhan gynta'r gramadeg fel ''[[Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg]]'' ym Milan ar Ddydd Gŵyl Ddewi [[1567]]. Mae'r ail ran, ar y rhannau ymadrodd (''gyfiachyddiaeth''), yn ddi-ddyddiad, ond yn debyg o fod wedi ymddangos ym [[1584]] neu [[1585]]. Mae'r ddwy ran gyntaf yn defnyddio ffurf ymgom mewn [[gwinllan]] rhwng ddau gyfaill, Gr. (hynny yw, Gruffydd ei hun) a Mo. (hynny yw, Morys Clynnog). Dyw'r drydedd ran (ar ''donyddiaeth'') ddim yn defnyddio'r un ffurf, efallai am fod Morys Clynnog wedi boddi tua [[1581]] a Borromeo, y cyfeirir ato fel ''meistr'' neu ''arglwydd'' yn y gramadeg, wedi marw ym [[1584]] hefyd. Mae'r rhannau eraill yn fyrrach: mae'r bedwaredd ran yn trafod mesurau cerdd dafod, y bumed ran yn rhoi casgliad o gerddi, a chynnwys y chweched ran yw dechrau cyfieithiad ''[[De Senectute]]'' gan [[Cicero]].<ref>G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
==Llyfrau eraill==
*''[[Y Drych Cristianogawl]]''
 
==FfynonellauLlyfryddiaeth==
Ceir argraffiad safonol o Ramadeg Gruffydd Robert a rhagymadrodd helaeth yn:
*G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
Llinell 20 ⟶ 24:
 
[[Categori:Gruffydd Robert| ]]
[[Categori:Genedigaethau'r 16eg ganrif|Robert, Gruffydd]]
[[Categori:Gramadegwyr Cymraeg|Robert, Gruffydd]]
[[Categori:Gwrthddiwygwyr Cymreig|Robert, Gruffydd]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Robert, Gruffydd]]
[[Categori:GramadegwyrMarwolaethau'r Cymraeg16eg ganrif|Robert, Gruffydd]]