Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5217090 (translate me)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Bardd]] [[Cymraeg]] ac [[offeiriad]] oedd '''Daniel Evans''' neu '''Daniel Ddu o Geredigion''' ([[1792]] - [[28 Mawrth]], [[1846]]). Roedd yn frodor o [[Dyffryn Aeron|Ddyffryn Aeron]], [[Ceredigion]]. Daeth i amlygrwydd fel bardd yn ifanc pan gynhwyswyd rhai o'i gerddi yn y [[blodeugerdd|flodeugerdd]] ddylanwadol ''[[Blodau Dyfed]]'' ([[1824]]).
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd Daniel Ddu ym ffermdy Maesmynach, ar lan [[afon Granell]], [[plwyf]] [[Llanfihangel Ystrad]], yn ne Ceredigion, rywbryd ym 1792, yn fab i David a Sarah Evans. Symudodd y teulu i fyw mewn ffermdy yr ochr arall i afon Granell ym mhlwyf [[Llanwnen]] lle treuliodd wedill ei oes. Yn hen lanc o offeiriad, un o'i bleserau mwyaf oedd pysgota yn afonydd [[afon Aeron|Aeron]] a [[Afon Teifi|Theifi]].
 
Cafodd Daniel Ddu ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanbedr dan Elezer Williams, mab [[Peter Williams]]. Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu, Rhydychen]]. Er iddo ddod yn offeiriad ymddengys nad ymgymerodd â gofal unrhyw blwyf. Un o'i gyfeillion gorau oedd y llenor [[Gwallter Mechain]].
 
==Gwaith llenyddol==
Enillodd sawl tlws [[eisteddfod]]ol, e.e. y Gadair yn Eisteddfod Dyfed 1823. Cyhoeddwyd ei waith yn y gyfrol ''Gwinllan y Bardd'' (1831) ac chafwyd dau argraffiad arall ohoni yn ddiweddarach gyda rhagor o gerddi (yr olaf ym 1906).
 
Llinell 11 ⟶ 13:
 
Dyma englyn o'i waith i raeadr [[Pontarfynach|Bont ar Fynach]]:
 
:Wyt gadwyn yn dwyn dywenydd — a chlod
:Gwych lydan trwy'n bröydd;
Llinell 28 ⟶ 31:
[[Categori:Emynwyr Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau 1792]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1846]]
[[Categori:Pobl fu farw trwy hunanladdiad]]