Evan Evans (Ieuan Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ysgolhaig, [[bardd]], ac [[offeiriad]] Cymreig oedd '''Evan Evans''', enwau barddol '''Ieuan Fardd''' a '''Ieuan Brydydd Hir''' ([[20 Mai]] [[1731]] - [[4 Awst]] [[1788]]).
 
==Bywgraffiad==
Ganed ef ym mhlwyf [[Lledrod]], [[Ceredigion]], a chafodd addysg yn ysgol [[Ystrad Meurig]] dan [[Edward Richard]]. Aeth i [[Coleg Merton, Rhydychen|Goleg Merton, Rhydychen]] yn [[1750]], ond ymadawodd heb gymryd gradd. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn [[Llanelwy]] yn [[1754]] ac yn ffeiriad yn [[1755]]. Bu'n gurad ym [[Manafon]], [[Sir Drefaldwyn]], yna yn Lyminge, [[Swydd Caint]]. Yn ddiweddarach, bu'n cynorthwyo ficer [[Llanafan Fawr]], [[Sir Frycheiniog]], yna'n gurad yn [[Llanllechid]], [[Trefriw]] a [[Llanrhychwyn]] ac yna am bum mlynedd yn [[Llanfair Talhaearn]], lle cymerodd wasanaeth priodas [[Twm o'r Nant]] ac Elizabeth Hughes. Dychwelodd i Geredigion am gyfnod byr, yna bu yn Lloegr am gyfnod.
 
Dychwelodd i Ogledd Cymru fel curad eto, yn [[Llanystumdwy]] (1769-70), [[Llandecwyn]] a [[Llanfihangel y Traethau]] (1770-1), [[Llanberis]] (1771-2), a [[Tywyn]] (1772-77).
 
==Gwaith llenyddol==
Ymddengys i'w ddiddordeb mewn [[llenyddiaeth Gymraeg]] ddechrau trwy ei gysylltiad â [[Lewis Morris]]. Treuliodd lawer o amser yn copïo [[llawysgrifau Cymreig]], a bu'n gohebu llawer ag ysgolheigion yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys [[Goronwy Owen]], [[Dafydd Jones o Drefriw]] a Daines Barrington. Yn [[1764]] cyhoeddodd y [[blodeugerdd|flodeugerdd]] arloesol ''[[Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards]]'', sy'n cynnwys rhai o gerddi [[Aneirin]] a [[Taliesin]]. Cafodd ei noddi gan Syr [[Watkin Williams Wynn]] o 1771 hyd 1778, a bu'n gweithio yn llyfrgell [[Wynnstay]], ond digiodd Syr Watkin pan aeth Ieuan i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]] i astudio [[Hebraeg]] ac [[Arabeg]] yn 1777-8 yn lle mynd ati i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil. Treuliodd y rhan fwyaf o ddeng mlynedd ddiwethaf ei oes yn byw gartref gyda'i fam; roedd [[alcoholiaeth]] wedi bod yn broblem iddo ers blynyddoedd.
 
Llinell 13 ⟶ 15:
Trefnwyd rhywfaint o nodded iddo gan [[Paul Panton]] a [[Thomas Pennant]]. Ar farwolaeth Ieuan, trosglwyddwyd ei bapurau i Panton, a defnyddiwyd llawer ohonynt ar gyfer y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]''.
 
==CyhoeddiadauLlyfryddiaeth==
===Cyhoeddiadau===
* ''[[Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards]]'' (1764).
* ''The Love of our Country'' (1772)
Llinell 19 ⟶ 22:
* ''Casgliad o Bregethau'' (1776)
 
===LlyfryddiaethErthyglau amdano===
* [http://yba.llgc.org.uk/cy/ Y Bywgraffiadur Arlein] (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
 
* Erthyglau Aneirin Lewis arno, a gasglwyd ynghyd yn ''Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis'', gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)