Phylip Siôn Phylip: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd proffesiynol o ardal [[Ardudwy]], [[Meirionnydd]], oedd '''Phylip Siôn Phylip''' (bu marw yn y [[1670au]]).
 
==Bywgraffiad==
Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif|ganrif olynnol]] a adnabyddir fel [[Phylipiaid Ardudwy]]. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr [[Norman]]aidd yn yr ardal yn y 12fed ganrif ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf [[Beirdd yr Uchelwyr]], y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr [[Cymru]] yn yr [[Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru|Oesoedd Canol Diweddar]] a dechrau'r [[Cyfnod Modern]]. Arferent fynd ar deithiau [[clera]] gan ymweld ac aelwydau mawr [[gogledd Cymru]]. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.
 
Roedd Phylip Siôn yn fab i'r bardd [[Siôn Phylip]] ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef [[Gruffudd Phylip]], a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf. Ymddengys nad oedd Phylip Siôn yn arfer [[clera]] fel ei frawd a'i dad, ond cafodd ei addysgu yn y traddodiad barddol gan ei dad. Dim ond pedawr o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, yn cynnwys [[cywydd]] [[marwnad]] i Morys Wyn (Maurice Wynne) o'r Glyn (Hydref, 1673).
 
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
Llinell 10 ⟶ 12:
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
[[Categori:Genedigaethau'r 17eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 17eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1670au]]