Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tomos Prys"

Ychwanegwyd 154 beit ,  6 blynedd yn ôl
tacluso, categoriau
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7820312 (translate me))
(tacluso, categoriau)
[[Bardd]], milwr a [[môr-leidr]] Cymreig oedd '''Tomos Prys''', weithiau '''Thomas Prys''', a adwaenir yn aml fel '''Tomos Prys o Blas Iolyn''' (tua [[1564]]? - [[23 Awst]] [[1634]]).
 
==Bywgraffiad==
Roedd Tomos Prys yn fab i [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o [[Plas Iolyn|Blas Iolyn]], [[Sir Ddinbych]]. Wedi marw ei dad daeth yn berchen maenor [[Ysbyty Ifan]].
 
Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda Margaret, merch William Gruffydd o [[Caernarfon|Gaernarfon]], gan gael tri o blant. Wedi ei marwolaeth hi, priododd Jane, merch Hugh Gwynn, Berth-ddu a [[Bodysgallen]]; cawsant ddeg o blant.
 
==Barddoniaeth==
Cyfansoddodd lawer o [[Cywydd|gywyddau]], a bu'n ymryson a nifer o [[Beirdd yr Uchelwyr|feirdd eraill]], yn cynnwys [[Edmwnd Prys]] a [[Siôn Phylip]]. Roedd ei gyfeillion yn cynnwys y beirdd [[Rhys Cain]], Rhys Wyn ac [[Edmwnd Prys]]. Mae nifer o'r cywyddau yn ddiddorol oherwydd eu bod yn rhoi llawer o'i hanes ef ei hun, ond nid yw beirniaid yn ystyried eu bod o werth llenyddol uchel. Mae'n defnyddio cryn dipyn o Saesneg yn rhai ohonynt.
 
Erys gwaith Tomos Prys heb ei olygu. Ceir ei hanes yn:
*William Rowland, ''Tomos Prys'' (Caerdydd, 1964). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Ddewi.
 
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
 
{{DEFAULTSORT:Prys, Tomos}}
[[Categori:Genedigaethau'r 1560au]]
[[Categori:Marwolaethau 1634]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1560au]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 17eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1634]]
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Môr-ladron Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]