Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Thomas (Ap Vychan)"

Ychwanegwyd 90 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
tacluso, categoriau
(tacluso, categoriau)
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]].
 
==Bywgraffiad==
Ganed Ap Vychan (''sic'' gyda 'V') mewn bwthyn wrth waelod [[Pennant-Lliw]] ym mhlwyf [[Llanuwchllyn]]. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,
:'Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
 
:'Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
:Yn wyneb caledfyd;
:Canai hi heb ofni'r byd
:Yn oedfa gerwin adfyd.'
 
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu [[Cymraeg]] ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng [[Conwy (tref)|Nghonwy]] a phriododd ferch ei feist, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r [[Methodistiaeth|Methodus]] mawr [[J. R. Jones, Ramoth]]. Bu'n weinidog yn [[Dinas Mawddwy|Ninas Mawddwy]] a phlwyf [[Rhiwabon]], ymysg lleoedd eraill a chafodd waith fel golygydd ''Y Dysgedydd'', cylchgrawn yr [[Annibynwyr]]. Yn [[1873]] fe'i apwyntiwyd yn athro [[diwinyddiaeth]] yng [[Coleg y Bala|Ngholeg y Bala]] a daeth i adnabod [[Michael D. Jones]]. Bu farw yn 1880.
 
==Gwaith llenyddol==
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy [[cadair|gadair]] am ei [[awdl]]au yn [[Eisteddfod]]au'r [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caerleon|Chaerleon]], ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur [[rhyddiaith]] mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei [[hunangofiant]] yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y [[19eg ganrif]].
 
 
{{DEFAULTSORT:Thomas, Robert (Ap Vychan)}}
[[Categori:Genedigaethau 1809]]
[[Categori:Marwolaethau 1880]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:LlenorionGenedigaethau Cymraeg1809]]
[[Categori:Golygyddion Cymreig]]
[[Categori:Gweinidogion ac offeiriaid Cristnogol]]
[[Categori:MarwolaethauLlenorion 1880Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:GenedigaethauMarwolaethau 18091880]]
[[Categori:Pobl o Lanuwchllyn]]