Rowland Vaughan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Llinell 1:
[[Bardd]] a chyfieithydd i'r [[Gymraeg]] oedd '''Rowland Vaughan''' (c. [[1587]] - [[18 Medi]], [[1667]]). Roedd yn frenhinwr ac eglwyswr selog yn y [[Rhyfeloedd Cartref Lloegr|Rhyfeloedd Cartref]].
 
==Bywgraffiad==
Ganed Rowland Vaughan tua 1587 yn fab i John Vaughan a'i wraig Elin, perchnogion plasdy hanesyddol [[Caer Gai]], plwyf [[Llanuwchllyn]], [[Meirionnydd]]. Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] ond does dim cofnod i ddangos iddo raddio yno. Priododd Jane ferch Edward Price o Dref-pysg yn Llanuwchllyn. Cawsant nifer o blant, hyd at wyth efallai.
 
Cymerodd Vaughan ran flaenllaw yn y cyntaf a'r ail o'r Rhyfeloedd Cartref. Roedd yn Uchel Siryf Meiriionnydd yn 1642-43. Dywedir iddo ymladd fel capten ar ochr y brenin [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl]] ym [[Brwydr Naseby|Mrwydr Naseby]]. Pan ddaeth lluoedd y [[Gwerinlywodraeth Lloegr|Werinlywodraeth]] i Feirion llosgwyd Caer Gai i'r llawr ganddynt i ddial arno. Cafodd loches yng Nghilgellan ar lethrau [[Aran Benllyn]]. Yn [[1650]] fe'i dalwyd a chafodd ei garcharu yng [[Caer|Nghaer]] am gyfnod. Roedd bywyd yn galed arno ar ôl y rhyfel a bu rhaid iddo fenthyg arian gan berthnasau ar fwy nag un achlysur. Bu farw ar 18 Medi, 1667.
 
==Gwaith llenyddol==
Ymddiddorai Rowland Vaughan mewn [[barddoniaeth]] a chanai ar y [[canu caeth|mesurau caeth]] a [[canu rhydd|rhydd]] (cyfansoddai ei wraig Jane o leiaf un gerdd ac roedd ei fab hynaf John yn fardd yn ogystal). Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi rhydd ar ôl ei farwolaeth, yn 1729. Ond fel cyfieithydd [[rhyddiaith]] dduwiol rhwydd a chain ei arddull y cofir Rowland Vaughan heddiw. Ei waith mwyaf adnbayddus yw ei ''Yr Ymarfer o Dduwioldeb'' (1630), cyfieithiad o ''The Practice of Piety'' gan [[Lewis Bayly]].
 
Llinell 20 ⟶ 22:
*''Evchologia: neu Yr Athrawiaeth i arferol weddio'' ([[1660]])
*''Carolau a Dyriau Duwiol'' ([[1729]])
 
===Darllen pellach===
Cyhoeddwyd adargraffiad o'r ''Ymarfer o Dduwioldeb'' gan John Ballinger yn 1930. Ceir pennod ar Vaughan gan [[Gwyn Thomas (bardd)|Gwyn Thomas]] yn ''Y Traddodiad Rhyddiaith'', cyf. 2 (gol. Geraint Bowen, 1970).
 
{{DEFAULTSORT:Vaughan, Rowland}}
[[Categori:Genedigaethau 1587]]
[[Categori:Marwolaethau 1667]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Cyfieithwyr Cymreig]]
[[Categori:Cristnogion Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1587]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 17eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1667]]
[[Categori:Pobl o Lanuwchllyn]]