Wiliam Cynwal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q4220725 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
[[Bardd]] [[Cymraeg]] proffesiynol a ganai yn ail hanner yr [[16eg ganrif]] oedd '''Wiliam Cynwal''' (m. [[1587]] neu [[1588]] efallai). Roedd yn frodor o [[Ysbyty Ifan]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]].
 
==Gwaith llenyddol==
Roedd Wiliam Cynwal yn un o'r to olaf o'r [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd proffesiynol]] a ganai yn nhai'r [[uchelwr|uchelwyr]] i ennill eu tamaid. Bu'n [[disgybl barddol|ddisgybl barddol]] i [[Gruffudd Hiraethog]] (m. [[1564]]) a chafodd ei radd fel disgybl pencerddaidd yn [[ail Eisteddfod Caerwys|ail Eisteddfod]] [[Caerwys]] yn [[1567]], a derbyniodd radd [[pencerdd]] wedyn.
 
Ysgrifennodd Cynwal nifer o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau]] oedd yn cynnwys [[herodraeth|achau]], gramadegau'r penceirddiaid a'r [[brut]]iau, ynghyd â cherddi. Roedd yn enwog yn ei ddydd fel achyddwr ac yn ffigwr cyfarwydd yn nhai'r uchelwyr ledled [[gogledd Cymru]]. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn sydd wedi gadael bron i 300 o [[cywydd|gywyddau]], tua 50 o [[awdl]]au a bron i 500 o [[englyn]]ion. Ei waith enwocaf yw'r cywyddau ganddo sy'n rhan o'r [[ymryson barddol]] enwog am natur [[dysg]] a [[barddoniaeth]] rhyngddo ac [[Edmwnd Prys]], archddiacon [[Meirionnydd]]. Canodd Prys [[marwnad|farwnad]] i Gynwal sy'n dangos eu bod yn gyfeillion er gwaethaf natur ymosodol yr ymryson ar adegau. Fe'i cofir am yr ymryson honno ac fel un o gynheiliad olaf a mwyaf dygn y [[traddodiad barddol]] Cymraeg.
 
==Llyfryddiaeth==
*Gruffydd Aled Williams (gol.), ''Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal'' (Caerdydd, 1986)
 
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
 
{{DEFAULTSORT:Wiliam Cynwal}}
[[Categori:Genedigaethau'r 16eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1588]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 16eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1588]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]