Gemau'r Gymanwlad 1978: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
Cafwyd boicot o'r gemau gan [[Nigeria]] mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb [[Seland Newydd]] ymweld â [[De Affrica]], oedd â system [[apartheid]], ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o [[Gemau_Olympaidd_Modern|Gemau Olympaidd]] 1976 ym [[Montreal]], [[Canada]], gan 28 o wledydd [[Affrica]]. Arweiniodd y boicot ym [[Montreal]] at benaethiad y [[Gymanwlad]] yn arwyddo [[Cytundeb Gleneagles]] ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â [[De Affrica]]<ref>http://www.nzhistory.net.nz/culture/1981-springbok-tour/gleneagles-agreement</ref>. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.
 
Ymunodd athletwyr [[Bangladesh]], [[Cyprus]], [[St Kitts a Nevis|Saint Christopher Nevis Anguilla]], [[Ynysoedd Cayman]] ac [[Ynysoedd Turks a Caicos]] â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd [[Gymnasteg]] i'r rhestr o gampau.
 
==Chwaraeon==