Plaid Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
data ethol cyffredinol
ail strwythuro
Llinell 22:
[[Delwedd:Triban Plaid Cymru.png|bawd|200px|chwith|Logo Plaid Cymru 1933-2006]]
 
=== Blynyddoedd Cynnar ===
Yr oedd pobl fel [[Emrys ap Iwan]] a [[Michael D. Jones]] wedi galw am [[hunanlywodraeth]] ("''Home Rule''") i Gymru yn y 19eg ganrif, ac roedd y Blaid Lafur gynnar yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan [[1918]] ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau.
 
Llinell 29 ⟶ 30:
 
Yn nhridegau'r 20fed ganrif, daeth [[John Edward Jones|J. E. Jones]] yn ysgrifennydd a threfnydd yn [[1930]], swydd a ddaliodd hyd [[1962]]. Trefnodd ef nifer o ymgyrchoedd, yn cynnwys ymgyrch i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y [[BBC]], a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y Gymraeg.
 
=== Wedi'r Ail Ryfel Byd ===
 
Yn 1945 daeth [[Gwynfor Evans]] yn arweinydd. Cafwyd cynhadledd stormus ym [[1949]], gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu [[heddychaeth]] Gwynfor Evans. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd [[Mudiad Gweriniaethol Cymru|Plaid Weriniaethol Cymru]]. Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.
Llinell 40 ⟶ 43:
Enillodd [[Dafydd Wigley]] [[Arfon (etholaeth seneddol)|Etholaeth Arfon]] a [[Dafydd Elis Thomas]] [[Meirionnydd (etholaeth seneddol)|Etholaeth Meirionnydd]] yn etholiad gwanwyn 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.
 
=== Refferendwm Datganoli 1979 ===
Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth [[Gwynfor Evans]] yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a [[Caerffili]] (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn [[Comisiwn Kilbrandon|Gomisiwn Kilbrandon]] ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.
 
Llinell 47 ⟶ 50:
Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1987]] enillodd Ieuan Wyn Jones [[Ynys Môn (etholaeth seneddol)|Ynys Môn]] i'r Blaid ac yna yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992]] enillwyd [[Sir Aberteifi a Gogledd Penfro (etholaeth seneddol)|Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro]] gan [[Cynog Dafis]].
 
=== Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 1999 ===
Yn etholiad y [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym [[1999]], enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - [[Conwy (etholaeth Cynulliad)|Conwy]], [[Llanelli (etholaeth Cynulliad)|Llanelli]], [[Y Rhondda (etholaeth Cynulliad)|Y Rhondda]] ac [[Islwyn (etholaeth Cynulliad)|Islwyn]] hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig [[Gwynedd]], [[Caerffili (sir)|Caerffili]] a [[Rhondda Cynon Taf]]. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] gyda 17 sedd.
 
Collwyd [[Ynys Môn (etholaeth seneddol)|Etholaeth Ynys Môn]] yn etholiad San Steffan [[2001]] ond fe enillwyd [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (etholaeth seneddol)|Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]] gan [[Adam Price]].
 
=== Refferendwm Datganoli 2011 ===
 
Yn sgil addewid yng nghytundeb Cymru'n Un rhwng [[Plaid Cymru]] a'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]], cynhaliwyd [[refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011|refferendwm]] ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Enillwyd y refferendwm gyda mwyafrif sylweddol: pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a 36.51% 'nac ydw'.