Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crynodeb awtomatig: Gwacawyd y dudalen yn llwyr
B Y dudalen wedi'i gwrthdroi i'r golygiad olaf gan Tomos ANTIGUA Tomos
Llinell 1:
Croeso i'r Wicipedia Cymraeg!
 
Mae Wicipedia yn wyddoniadur sy'n cael ei ysgrifennu gan y darllenwyr eu hunain. Gall unrhywun, gan gynnwys ''chi'', olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y botwm '''golygu''' sy'n ymddangos ar frig pob erthygl Wicipedia.
 
==Pori Wicipedia==
 
Er bod y Wicipedia Cymraeg yn fach o hyd o'i gymharu â fersiynau mewn ambell iaith arall, mae'r storfa o wybodaeth yn tyfu'n ddyddiol. Y ffordd orau i chwilio am bwnc yw trwy'r bocs ar ochr chwith y dudalen. Teipiwch eich testun yn y blwch a cliciwch ar '''Mynd'''. Os nad oes erthygl ar y pwnc hwnnw, daw sgrîn chwilio i fyny sy'n dangos pob man lle'r ymddengys y testun yn y gwyddoniadur.
 
Os ydych chi'n hoffi erthygl, beth am fynd i'r dudalen sgwrs (cliciwch ar '''sgwrs''' ar frig yr erthygl) a gadael nodyn yno (cliciwch ar '''golygu'''). Mae pawb yn hoffi ychydig o ganmoliaeth!
 
Efallai nad yw'r Wicipedia Cymraeg yn ateb eich cwestiwn. Os felly, ewch i'r [[Wicipedia:Y Desg Cyfeirio|desg gyfeirio]] a gadewch nodyn yno -- mae gennym griw o ymchwilwyr dawnus a fydd yn fwy na pharod i helpu!
 
==Golygu==
 
Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen ar y Wicipedia (hyd yn oed y dudalen hon!). Os oes angen newid rhywbeth yn yr erthygl, y cwbl sydd angen gwneud yw clicio ar y botwm '''golygu''' ar frig y dudalen. Am fwy o gymorth technegol am olygu tudalennau, ewch [[Wicipedia:Sut i olygu tudalen|yma]]. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr, na hyd yn oed mewngofnodi. Os yw'r posibilrwydd o sarnu erthyglau yn eich gofidio, gallwch fynd i'r [[Wicipedia:Bocs swnd|blwch tywod]] i arbrofi. (Mae yna ambell dudalen pwysig sydd wedi'u [[Wicipedia:Tudalen amddiffyn|amddiffyn]]: mae hyn yn golygu fod yn rhaid bod yn weinyddwr er mwyn eu newid.)
 
Os gwelwch gamgymeriad ffeithiol, gwall iaith, neu unrhywbeth arall sydd angen ei newid, golygwch â hyder! Bydd neb yn eich beirniadu am wneud camgymeriadau: mae wastad modd i chi, neu rywun arall, drwsio problemau sy'n codi.
 
:Dyfal donc a dyrr y garreg.
<!-- angen adio nodyn fan hyn ynglŷn â sut i ychwanegu erthyglau newydd -->
 
Ar y llaw arall, mae gan y Wicipedia ambell bolisi sydd yn bwysig i'w parchu. Yn benodol, mae'r polisi niwtraliaeth yn golygu y dylai pob erthygl fod yn hollol ddiduedd, trwy beidio â chefnogi na barnu ochr benodol mewn pynciau dadleuol. Efallai fod rhywun wedi newid eich cyfraniad i erthygl; edrychwch ar hanes y dudalen (cliciwch ar y botwm '''hanes''' ar frig y dudalen) neu'r dudalen sgwrs er mwyn darganfod rhesymau pam.
 
Mae pob cyfraniad i Wicipedia yn cael ei ryddhau o dan dermau'r Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU (GFDL), sy'n golygu y gall Wicipedia gael ei ddosrannu'n rhydd am byth (gweler [[Wicipedia:Hawlfraint]]).
 
Yn bennaf oll, mwynhewch!
 
==Creu cyfrif==
Er fod unrhywun yn gallu cyfrannu i erthyglau Wicipedia, mae yna [[Wicipedia:Cofrestru|fanteision]] mewn cael cyfrif. Cliciwch ar '''mewngofnodi''' ar frig y dudalen er mwyn creu cyfrif newydd.
 
==Mwy o gwestiynau?==
Gallwch gael cymorth pellach trwy fynd at [[Wicipedia:Cymorth|y dudalen cymorth]]. Yn ogystal â hyn mae'r [[Wicipedia:Y Caffi|Caffi]] wedi'i sefydlu er mwyn i unrhywun ofyn cwestiynau neu gyhoeddi newyddion am y Wicipedia. Mae croeso i chi gyfrannu!
 
[[Categori:Cymorth|Croeso, newydd-ddyfodiaid]]
 
[[ar:&#1608;&#1610;&#1603;&#1610;&#1576;&#1610;&#1583;&#1610;&#1575;:&#1578;&#1585;&#1581;&#1610;&#1576; &#1576;&#1575;&#1604;&#1602;&#1575;&#1583;&#1605;&#1610;&#1606; &#1575;&#1604;&#1580;&#1583;&#1583;]]
[[bs:Wikipedia:Dobrodošli]]
[[ca:Viquipèdia:Benvinguts a la Viquipèdia]]
[[cs:Wikipedie:Vítejte ve Wikipedii]]
[[da:Wikipedia:Velkommen nybegynder]]
[[de:Wikipedia:Willkommen]]
[[en:Wikipedia:Welcome, newcomers]]
[[eo:Vikipedio:Bonvenon al la Vikipedio]]
[[es:Wikipedia:Bienvenidos]]
[[fa:&#1608;&#1740;&#1705;&#1740;&#8204;&#1662;&#1583;&#1740;&#1575;:&#1578;&#1575;&#1586;&#1607;&#8204;&#1608;&#1575;&#1585;&#1583;&#1575;&#1606;&#1548; &#1582;&#1608;&#1588; &#1570;&#1605;&#1583;&#1740;&#1583;]]
[[fr:Wikipédia:Bienvenue]]
[[ga:Vicipéid:Fáilte, a núíosaigh]]
[[he:&#1493;&#1497;&#1511;&#1497;&#1508;&#1491;&#1497;&#1492;:&#1489;&#1512;&#1493;&#1499;&#1497;&#1501; &#1492;&#1489;&#1488;&#1497;&#1501;]]
[[hi:&#2357;&#2367;&#2325;&#2367;&#2346;&#2368;&#2337;&#2367;&#2351;&#2366;:&#2360;&#2381;&#2357;&#2366;&#2327;&#2340;, &#2344;&#2351;&#2375; &#2310;&#2344;&#2375;&#2357;&#2366;&#2354;&#2379;&#2306;]]
[[hu:Wikipédia:Üdvözlünk_látogató]]
[[ia:Wikipedia/Benvenite]] [[ja:Wikipedia:&#26032;&#35215;&#21442;&#21152;&#32773;&#12398;&#26041;&#12289;&#12424;&#12358;&#12371;&#12381;]]
[[lt:Wikipedia:%C4%AE%C5%BEanga naujokams]]
[[ms:Wikipedia:Selamat_Datang]]
[[nds:Infos F&#1094;r Niege]]
[[nl:Wikipedia:Welkom voor nieuwelingen]]
[[pl:Wikipedia:Powitanie nowicjuszy]]
[[pt:Boas vindas]]
[[ro:Wikipedia:Bun venit]]
[[sk:Wikip%C3%A9dia:Vitajte_vo_Wikip%C3%A9di%C3%AD]]
[[sr:&#1042;&#1080;&#1082;&#1080;&#1087;&#1077;&#1076;&#1080;&#1112;&#1072;:&#1044;&#1086;&#1073;&#1088;&#1086;&#1076;&#1086;&#1096;&#1083;&#1080;]] [[sv:Wikipedia:Välkommen]]
[[tt:Säläm, yaña kilgännär]]
[[ur:%D8%AE%D9%88%D8%B4_%D8%A2%D9%85%D8%AF%D9%8A%D8%AF]]
[[zh-cn:Wikipedia:&#27426;&#36814;&#65292;&#26032;&#26469;&#32773;]]
[[zh-tw:Wikipedia:&#27489;&#36814;&#65292;&#26032;&#20358;&#32773;]]