Ithel Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Llinell 1:
[[Bardd]] [[Cymraeg]] a gysylltir â gogledd-orllewin [[Cymru]] oedd '''Ithel Ddu''' (fl. ail hanner y [[14eg ganrif]]).<ref>''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997). Rhagymadrodd.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ni wyddys dim am ei hanes, ond canodd y bardd adnabyddus [[Iolo Goch]] ffug[[marwnad|farwnad]] iddo a gellir casglu rhyw fymryn o wybodaeth o'r ffynhonnell honno. Cyfeiria Iolo ato mewn dwy gerdd [[dychan|ddychan]] hefyd, i Herstin Hogl a'r Gwyddelyn. Dengys hyn fod Iolo yn ei adnabod, neu wedi clywed amdano o leiaf. Yn y ffugfarwnad, disgrifir Ithel fel gŵr o "fro Feilir frych", ac ar sail hynny credwyd ei fod yn frodor o [[Ynys Môn|Fôn]] (bro [[Meilyr Brydydd]]), ond credir erbyn heddiw fod Ithel yn hannu o [[Llŷn|Lŷn]], a hynny ar sail nodyn mewn [[llawysgrif]] yn llaw [[Thomas Wiliems]] o [[Trefriw|Drefriw]] sy'n cyfeirio ato fel "Ithel Ddu o Lŷn". Ceir cyfeiriad posibl arall ato gan [[Rhys Goch Eryri]] yn ei farwnad i'w gydfardd [[Llywelyn ab y Moel]], ond ni ellir pwyso gormod ar hynny. Yn y gerdd honno mae Rhys Goch Eryri yn cyplusu enw Ithel ag enwau [[Dafydd ap Gwilym]], [[Madog Benfras]], [[Gruffudd Gryg]], ac [[Iolo Goch]].<ref>''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997). Rhagymadrodd.</ref>
 
==Cerdd==
Dim ond un gerdd o waith Ithel sydd wedi goroesi, sef 'Cywydd y Celffaint' — cerdd naratifol, dychanol, sy'n llawn dychymyg —, ond mae'r cyfeiriadau mynych ato yng ngwaith [[cywydd]]wyr ail hanner y 14eg ganrif a dechrau'r ganrif olynol yn dangos ei fod yn fardd uchel ei fri.<ref>''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997). Rhagymadrodd.</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Golygir gwaith y bardd gan Erwain Haf yn,
*''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
 
{{DEFAULTSORT:Ithel Ddu}}
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Genedigaethau'r 14eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 14eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Lŷn]]