Trahaearn Brydydd Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
tacluso, categoriau
Llinell 1:
Un o'r cynharaf o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] oedd '''Trahaearn Brydydd Mawr''' (bl. dechrau'r 14eg ganrif). Roedd yn frodor o [[Ystrad Tywi]], yn ôl pob tebyg, ac yn cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf ei gyfnod gan ei gyfoeswyr.<ref>''Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli'' (Aberystwyth, 1995).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Cymharol ychydig a wyddom am Drahaearn ei hun ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r [[llysenw]] '[P]rydydd Mawr' yn dangos dau beth, sef ei fod yn [[prydydd|brydydd]] a hefyd ei fod yn ŵr o faintioli corfforol anghyffredin (cf. [[Cynddelw Brydydd Mawr]]), ffaith a ategir gan gyfeiriadau ato gan rai o'i gydfeirdd. Mae cofnodion achyddol yn awgrymu mai Goronwy Foel ap Robert ap Bleddri o [[Tefynnog|Defnynnog]] yn y Cantref Mawr ([[Tewdos]]) ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]] oedd ei dad, ond cysylltir y mab ag ardal [[Ystrad Tywi]] ([[Sir Gaerfyrddin]]) a chanodd hefyd ym [[Morgannwg]].<ref>''Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli'' (Aberystwyth, 1995).</ref>
 
==Cerddi==
Mae pump o gerddi gan Drahaearn ar glawr heddiw ond gwyddys mai cyfran fach o'i waith yw hyn. Ceir [[awdl]] grefyddol a [[marwnad]] i Hywel o [[Llandingad|Landingad]], plwyf yng nghwmwd [[Hirfryn]] yn y [[Cantref Bychan]] yn Ystrad Tywi: canu yn null y [[Gogynfeirdd]] a geir yn y cerddi hyn. Ceir yn ogystal tair cerdd [[dychan]], yn cynnwys un deifiol iawn i'w gyd-fardd [[Casnodyn]], yn gyfres hir o [[englyn]]ion, sy'n taflu golwg gwrthfawr ar fywyd y bardd mawr hwnnw.<ref>''Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli'' (Aberystwyth, 1995).</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
*N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), ''Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli'' (Aberystwyth, 1995).
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Beirdd yr Uchelwyr}}
 
{{DEFAULTSORT:Trahaearn Brydydd Mawr}}
[[Categori:Genedigaethau'r 13eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 14eg ganrif]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Genedigaethau'r 13eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 14eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 14eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]