Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bleddyn Fardd"

Ychwanegwyd 6 beit ,  6 blynedd yn ôl
B
(tacluso, categoriau)
 
==Cerddi==
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith [[awdl]] a saith cadwyn [[englyn]]ion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd [[marwnad|farwnadau]] i Ddafydd Benfras, [[Goronwy ab Ednyfed]] ([[distain]] Gwynedd) a'i fab [[Hywel ap Goronwy]]. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i [[Rhys ap Maredudd ap Rhys|Rys ap Maredudd ap Rhys]] o Ddeheubarth.<ref>Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref>
 
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] ac [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn|Owain Goch]]. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua [[1283]].<ref>Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref>