Einion ap Madog ap Rhahawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q12387320 |
tacluso, categoriau |
||
Llinell 1:
Un o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] a ganai yn ail chwarter y [[13eg ganrif]] oedd '''Einion ap Madog ap Rhahawd''' (fl. [[1237]]). Roedd yn fardd llys yn oes [[Llywelyn Fawr]], Tywysog [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].<ref>Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd'.</ref>
==Llinach==
Ychydig a wyddys am fywyd personol Einion. Hanai o deulu o [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithwyr
==Cerdd==
Dim ond un gerdd o waith Einion ap Madog ap Rhahawd sydd wedi goroesi. Mae'r testun ar glawr yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] a chwech [[llawysgrif]] diweddarach sy'n deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n [[awdl]] [[canu mawl|foliant]] fer i [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]]. Cafodd ei chyfansoddi ar ôl i Gruffudd gael ei ryddhau o gaethiwed yn [[1234]] a chyn ei ail-garcharu yn [[1239]], cyfnod pan reolai Gruffudd dros ei dir etifeddol yn [[Llŷn]] ac [[Eifionydd]] a rhan o [[teyrnas Powys|Bowys]], dan awdurdod ei dad, â'i lys yng [[Castell Cricieth|Nghastell Cricieth]] yn ôl pob tebyg.<ref>Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd'.</ref>
==Llyfryddiaeth==
*Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd', yn, ''Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Beirdd y Tywysogion}}
{{DEFAULTSORT:Einion ap Madog}}
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 13eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 13eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Arfon]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
|