Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3331174 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
'''Gwynfardd Brycheiniog''' (fl. [[1170au]]) yw'r cynharaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r [[Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn [[Eisteddfod Aberteifi, 1176]].<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
==Y barddBywgraffiad==
Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef [[Gwynfardd Dyfed]]. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i [[Cuhelyn Fardd|Guhelyn Fardd]], un o gyndeidiau [[Dafydd ap Gwilym]]. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr ''gwyn'') [[awen]] y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall ''gwyn''/''gwen'' fel ansoddair [[Cymraeg Canol]] yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â [[Tyddewi]] a hefyd â [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], efallai.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
==Ei waithCerddi==
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y mae'r [[awdl]] i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y [[Gogynfeirdd]] a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y [[sant]] yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o [[Buchedd Dewi|fuchedd y sant]], fel [[Senedd Llanddewibrefi]], a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys [[Llanddewibrefi]]. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y [[clas]]au a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
*'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn K.A. Bramley, et al. (gol.), ''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol II.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Beirdd y Tywysogion}}
 
{{DEFAULTSORT:Gwynfardd Brycheiniog}}
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 12fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Pobl o Frycheiniog]]
[[Categori:Teyrnas Brycheiniog]]