Meilyr Brydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2670636 (translate me) |
tacluso, categoriau |
||
Llinell 1:
'''Meilyr Brydydd''' yw'r cynharaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] (fl. [[1081]]-[[1137]]). Mae'n bosibl ei fod yn frodor o [[Trefeilyr|Drefeilyr]], [[Môn]]. Fe'i cofir am ei ganu i [[Gruffudd ap Cynan]].<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).</ref>
==Bywgraffiad==
Roedd Meilyr yn dad i'r bardd [[Gwalchmai ap Meilyr]] ac yn daid i'r beirdd [[Meilyr ap Gwalchmai]], [[Einion ap Gwalchmai]] ac, yn ôl pob tebyg, i [[Elidir Sais]]. Yn ôl ach teuluol a geir yn y testun ''Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars'' dan y teitl ''Llwyth Aelan'' enw gwraig Meilyr Brydydd oedd Tandreg ferch Rhys ap Seisyllt. Yn ôl yr un ddogfen tad Meilyr oedd Mabon ap Iarddur ap Mor ap Tegerin ap Aeddan, ac roedd yr Aeddan hwnnw yn ei dro yn un o ddisgynyddion [[Cunedda Wledig]], sefydlwr teulu brenhinol [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Roedd Meilyr yn perthyn i deulu barddol felly; teulu breintiedig ac iddo ach hir ac anrhydeddus.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).</ref>
Ceir llecyn o'r enw Trefeilyr ym mhlwyf [[Trefdraeth (Môn)|Trefdraeth]] ym Môn, ac er na fedrwn fod yn gwbl sicr mai Meilyr Brydydd oedd deiliad y tir, mae'r ffaith fod yna hefyd [[Trewalchmai|Drewalchmai]] (pentref [[Gwalchmai]] heddiw) a bod cofnodion o'r [[14eg ganrif]] yn nodi daliadau tir eraill yn enwau meibion ei fab Gwalchmai ap Meilyr yn awgrymu'n gryf fod Meilyr yn berchen arno ac efallai wedi ei eni yno.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).</ref>
==
[[Pencerdd]] llys [[Gruffudd ap Cynan]] (c.
:
:
:
:Bûm o du gwledig yn lleithigawg.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994). Orgraff ddiweddar.</ref>
Mae'r ail gerdd yn adnabyddus iawn dan yr enw ''Marwysgafn Meilyr Brydydd'', y [[Marwysgafn|farwysgafn]] gynharaf a gadwyd i ni. Math o gerdd gyffes ydyw. Mae'r bardd yn cyffesu ei bechodau ac yn gofyn maddeuant a lle ym [[Paradwys|Mharadwys]]. Ar ddiwedd y gerdd mae'n gofyn i [[Iesu Grist|Grist]] ei gadw rhag tân [[uffern]] ac i'r [[Duw]] a'i creodd ei adael i orffwys ymhlith beddau'r saint ar [[Ynys Enlli]]:
:''Crist croesddarogan a'm gŵyr, a'm gwarchan,''▼
:''Rhag uffern affan, wahan westi:''▼
:''Creawdr a'm crewys a'm cynnwys i''▼
Priodolir testun arall i Feilyr, sef cerdd ddarogan sy'n ymwneud â [[brwydr Mynydd Carn]] (1081), ond nid oes sicrwydd mai Meilyr a'i canodd.▼
:Ymhlith plwyf gwirin gwerin Enlli.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994). Orgraff ddiweddar.</ref>
▲Priodolir testun arall i Feilyr, sef cerdd ddarogan sy'n ymwneud â [[brwydr Mynydd Carn]] (1081), ond nid oes sicrwydd mai Meilyr a'i canodd.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).</ref>
==Llyfryddiaeth==
;Testun
*J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (gol.), ''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'', Cyfres Beirdd y Tywysogion I (Caerdydd, 1994). ISBN 0708311873
;Erthygl
*Bedwyr Lewis Jones (gol.), ''Gwŷr Môn'' (Caernarfon, 1979). Pennod gan Tomos Roberts ar deulu Meilyr Brydydd.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau|2}}
{{Beirdd y Tywysogion}}
{{DEFAULTSORT:Meilyr Brydydd}}
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 11eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 11eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 12fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1130au]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
|