Y Prydydd Bychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3324139 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
[[Bardd]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] oedd '''Y Prydydd Bychan''' (c. [[1200]] - [[1270]]), un o'r diweddaraf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Canodd i dywysogion Deheubarth yn bennaf ond ceir yn ogystal cerddi i uchelwyr o [[Teyrnas Powys|Bowys]] a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Yn ogystal â'u gwerth llenyddol mae ei gerddi'n ddrych i wleidyddiaeth Cymru yn oes y ddau Lywelyn. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o Geredigion.<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
 
==Ei fywydBywgraffiad==
Ychydig iawn a wyddys am y bardd ei hun a daw trwch y dystiolaeth amdano o'i gerddi. Mae ei enw bedydd yn anhysbys. Oherwydd ei enw awgrymir ei fod yn fab i [[Phylip Brydydd]], a ganodd i dywysogion Deheubarth genhedlaeth o'i flaen (arferid cyfeirio at fab rhywun o'r un enw neu alwedigaeth gyda'r cyfenw 'Bychan'). Ar sail cyfeiriad gan y bardd [[Gwilym Ddu o Arfon]] at ddau fardd yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] "Philyp a Gwilym...", mae D. Myrddin Lloyd yn awgrymu mai Gwilym ap Philyp oedd enw'r Prydydd Bychan. Ar sail gwrthrychau ei [[marwnad|farwnadau]], gellir dweud fod y Prydydd Bychan yn canu yn y cyfnod [[1222]]-[[1268]], ac felly'n byw yn y cyfnod o tua 1200 hyd tua 1270.<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
 
Os gwir fod y Prydydd Bychan yn fab i Philyp Brydydd, mae hi bron yn sicr mai wrth draed ei dad y dysgodd ei grefft (fel yn achos [[Gwalchmai ap Meilyr]] gan ei dad [[Meilyr Brydydd]] ganrif yn gynt).<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
 
==Cerddi==
Ceir 19 o gerddi (528 llinell) o waith y Prydydd Bychan yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], unig ffynhonnell ei waith. [[Canu mawl]] a [[marwnad]] yw'r gerddi sydd wedi goroesi i gyd.<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
 
Mae noddwyr y Prydydd Bychan yn perthyn i lysoedd Ceredigion a Deheubarth yn bennaf, ond canodd yn ogystal i noddwyr yng Ngwynedd a Phowys. Canodd i [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn]] a [[Goronwy ab Ednyfed|Goronwy]] ap [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]], yng Ngwynedd. Ym Mhowys canodd i Gwên ap Goronwy, distain [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]]. Canodd yn ogystal i uchelwyr yn y gogledd sydd fel arall yn anhysbys, megis Madog Môn, Bleddyn ap Dwywg a Llywelyn ap Rhys ab Iorwerth.<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
 
Mae bron y cyfan o'i noddwyr yn Neheubarth yn perthyn yn uniongyrchol i linach frenhinol [[Dinefwr]], disgynyddion yr Arglwydd [[Rhys ap Gruffudd]], yn cynnwys [[Rhys Ieuanc ap Gruffudd]] (m. 1222), [[Rhys Gryg]], [[Morgan ap Rhys]], [[Owain ap Gruffudd]] a [[Cynan ap Hywel Sais|Chynan ap Hywel Sais]]. Canodd hefyd i Rys ap Llywelyn, distain [[Maredudd ab Owain]] o Ddeheubarth.<ref>Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan'.</ref>
Canodd i [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn]] a [[Goronwy ab Ednyfed|Goronwy]] ap [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]], yng Ngwynedd. Ym Mhowys canodd i Gwên ap Goronwy, distain [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]]. Canodd yn ogystal i uchelwyr yn y gogledd sydd fel arall yn anhysbys, megis Madog Môn, Bleddyn ap Dwywg a Llywelyn ap Rhys ab Iorwerth.
 
Mae bron y cyfan o'i noddwyr yn Neheubarth yn perthyn yn uniongyrchol i linach frenhinol [[Dinefwr]], disgynyddion yr Arglwydd [[Rhys ap Gruffudd]], yn cynnwys [[Rhys Ieuanc ap Gruffudd]] (m. 1222), [[Rhys Gryg]], [[Morgan ap Rhys]], [[Owain ap Gruffudd]] a [[Cynan ap Hywel Sais|Chynan ap Hywel Sais]]. Canodd hefyd i Rys ap Llywelyn, distain [[Maredudd ab Owain]] o Ddeheubarth.
 
==Llyfryddiaeth==
*Morfydd E. Owen 'Gwaith Y Prydydd Bychan', yn Rhian M. Andrews ''et al.'' (gol.), ''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Aberystwyth, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Beirdd y Tywysogion}}
 
[[Categori{{DEFAULTSORT:Beirdd y Tywysogion|Prydydd Bychan]], Y}}
[[Categori:Beirdd Cymraeg|Prydyddy BychanTywysogion]]
[[Categori:Genedigaethau'rBeirdd 1200au|Prydydd BychanCymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1200au]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 13fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1270au]]
[[Categori:Pobl o Geredigion]]