Ysgolion Cylchynol Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Hanes==
Dechreuodd Griffith Jones cyntaf o'i ysgolion cylchynol yn [[1731]]. Roedd ysgolion wedi eu cynnal dan nawdd yr [[SPCK]], ond erbyn y [[1720au]] roedd dylanwad y rhain ar drai. Un rheswm am hyn oedd fod yr SPCK yn amheus iawn o'r iaith Gymraeg. Cymraeg oedd iaith ysgolion Griffith Jones, ac roedd yr addysg yn canolbwyntio ar ddysgu darllen Cymraeg, i ddarllen y [[Beibl]] [[Cymraeg]] a gweithiau defosiynol megis ''[[Canwyll y Cymry]]'', ac i adrodd [[catecism]] [[Eglwys Loegr]]. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion; yn aml plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos. Dywedid fod y disgyblion disgleiriaf yn medru dysgu darllen mewn chwech i saith wythnos.<ref>Geraint H. Jenkins ''The foundations of modern Wales 1642 - 1780'' (Gwasg Clarendon, Gwasg Prifysgol Cymru, 1987).</ref>
 
Bu Griffith Jones yn brysur yn codi arian ar gyfer yr ysgolion; y prif gyfranwyr oedd Syr [[John Philipps]] a [[Bridget Bevan]] ([[Madam Bevan]]) o [[Talacharn|Dalacharn]]. Telid tua £5 y flwyddyn i'r athrawon, oedd yn cael eu hyfforddi yn ''Yr Hen Goleg'' yn Llanddowror. Erbyn [[1740]] roedd 150 o ysgolion wedi ei sefydlu, y rhan fwyaf yn ne Cymru. Yn ddiweddarach lledaenodd yr ysgolion yn y gogledd hefyd. Erbyn [[1758]] roedd 218 o ysgolion, gyda nifer sylweddol o ddisgyblion ym mhob sir heblaw [[Sir y Fflint]] a [[Sir Drefaldwyn]]. Wedi marwolaeth Griffith Jones yn 1761, parhawyd yr ysgolion gan Madam Bevan. Pan fu hi farw yn [[1779]] gadawodd £10,000 i barhau'r ysgolion, ond cystadlwyd ei hewyllys ac ni chafwyd penderfyniad cyfreithiol am 31 mlynedd. Oherwydd diffyg arian, daeth y cynllun i ben.Geraint H. Jenkins ''The foundations of modern Wales 1642 - 1780'' (Gwasg Clarendon, Gwasg Prifysgol Cymru, 1987).</ref>