Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Siôn Conwy"

Ychwanegwyd 298 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
tacluso, categoriau
(→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB)
(tacluso, categoriau)
Llenor a noddwr beirdd o [[Sir Ddinbych]] yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Siôn Conwy''' neu '''Siôn Conwy III''' (c. [[1546]] - [[Rhagfyr]] [[1606]]). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym [[Botryddan|Motryddan]], ger [[Rhuddlan]]. Ei dad oedd Siôn Conwy II, [[Aelod Seneddol]] [[Sir y Fflint]].
 
==Bywgraffiad==
Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]], gan gynnwys [[Simwnt Fychan]] a [[Siôn Tudur]].<ref>Enid Roberts, ''Gwaith Siôn Tudur'', cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.</ref>
 
Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r [[Gymraeg]]. Mae ''Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad'' ("Clod [[Cerdd Dafod]] a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd [[Lladin]] y Sais John Case, ''Apologia Musices'' (1588). Mae'r ail draethawd, ''Definiad i Hennadirion'', yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol ''A Summons for Sleepers'' (1589).<ref>Enid Roberts, ''Gwaith Siôn Tudur'', cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.</ref>
 
Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys [[Rhuddlan]].<ref>Enid Roberts, ''Gwaith Siôn Tudur'', cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.</ref>
 
{{DEFAULTSORT:Conwy, Sion}}
[[Categori:LlenorionCyfieithwyr CymraegCymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]
[[Categori:Genedigaethau 1546]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1606]]
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]