Olaf Sigtryggsson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2446633 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
Aelod o deulu brenhinol [[Daniaid Dulyn]] oedd '''Olaf Sigtryggsson''', hefyd '''Olaf Arnaid''' neu '''Olaf o Ddulyn''' (bu farw [[1034]]). Cyfeirir ato fel '''Afloedd''' yn ''[[Historia Gruffud vab Kenan]]'', ac '''Amlaíb mac Sitriuc''' mewn [[Gwyddeleg]]. Roedd yn daid i [[Gruffudd ap Cynan]].
 
==Bywgraffiad==
Roedd Olaf yn fab i frenin Daniaid Dulyn, [[Sigtrygg Farf Sidan]]. Dywedir iddo ymgyrchu yn erbyn Gwynedd, ac ymddengys iddo feddiannu rhan o'r deyrnas am gyfnod tua'r flwyddyn [[1000]], gan adeiladu castell a elwid yn "Castell Bon y Dom" neu "Castell Olaf". Nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y castell yma; awgrymwyd [[Castell Bryn Gwyn]] ger [[Brynsiencyn]] neu leoliad gerllaw [[y Felinheli]].
 
Llofruddiwyd Olaf yn [[Lloegr]] yn 1034, pan oedd ar bererindod i [[Rhufain|Rufain]]. Priododd ei ferch, [[Ragnell]], a [[Cynan ap Iago]] o linach Aberffraw, a chawsant un mab, [[Gruffudd ap Cynan]]. Yn ôl ''Historia Gruffud vab Kenan'':
 
: Bonhed gruffud o barth y vam. gruffud vrenhin. m. raonell verch avloed vrenhin dinas dulyn a phymhetran ywerdon ac enys vanaw ... a mon a gwyned ene lle y gwnaeth avloed castell cadarn ae dom ae fos etwa yn amlwc ac aelwit castell avoled vrenhin. Yg kymraec hagen y gelwit bon y dom. Avloed enteu oed vab y sutric vrenhin ...<ref>D. Simon Evans, ''Historia Gruffud vab Kenan'' (Gwasg Prifysgol Cymru).</ref>
 
Mewm gwirionedd, bu Olaf farw cyn ei dad, ac ni fu'n frenin Dulyn.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:11eg ganrif yng Nghymru]]
[[Categori:Marwolaethau 1034]]
[[Categori:HanesTeyrnas CymruDulyn]]
[[Categori:HanesTeyrnas IwerddonGwynedd]]