Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Richard Davies"

Ychwanegwyd 38 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
(tacluso, categoriau)
Gweithiai'n ddyfal gyda [[William Salesbury]] i berswadio senedd [[San Steffan]] i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r [[Beibl]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn [[1563]] ymunodd â Salesbury yn ei blas yn [[Abergwili]] i gyfieithu'r [[Testament Newydd]] gyda fo. Richard Davies yw awdur yr ''[[Epistol at y Cembru]]'' ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd [[1567]]; cafodd ddylanwad mawr ar [[hanesyddiaeth]] [[Cymru]].
 
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
 
==Llyfryddiaeth==