Gemau'r Gymanwlad 2002: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Commonwealth Games infobox | Name = 17eg Gemau'r Gymanwlad | Logo = 2002_Commonwealth_Games_logo.png | Size = 150 | Host city = | Host city = Mancein...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:14, 28 Medi 2013


Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermuda ym 1995[2].

17eg Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol25 Gorffennaf
Seremoni cau4 Awst
Agorwyd yn swyddogol ganElizabeth II
XVI XVIII  >

Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Judo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.

Dyma oedd y Gemau olaf i Zimbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.

Uchafbwyntiau'r Gemau

Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddianus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nauru yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.

Casglodd St Kitts a Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan ennillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Cayman a St Lucia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Cayman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i St Lucia.

Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]

Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]

Chwaraeon

Timau yn cystadlu

Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002






Tabl Medalau

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 82 62 63 207
2   Lloegr 54 52 60 166
3   Canada 31 41 46 118
4   India India 30 22 17 69
5   Seland Newydd 11 13 21 45
6   De Affrica 9 20 17 46
7   Camerŵn 9 1 2 12
8   Malaysia 7 6 18 34
9   [[Cymru] 6 13 12 31
10   Yr Alban 6 8 16 30
11   Nigeria 5 3 12 20
12   Kenya 4 8 4 16
13   Jamaica 4 6 7 17
14   Singapore 4 2 7 13
15   Bahamas 4 0 4 8
16   Nauru 2 5 8 15
17   Gogledd Iwerddon 2 2 1 5
18   Cyprus 2 1 1 4
19   Pacistan 1 3 4 8
20   Fiji 1 1 1 3
20   Zambia 1 1 1 3
22   Zimbabwe 1 1 0 2
23   Namibia 1 0 4 5
24   Tanzania 1 0 1 2
25   Bangladesh 1 0 0 1
25   Guyana 1 0 0 1
25   Mosambic 1 0 0 1
25   St Kitts a Nevis 1 0 0 1
29   Botswana 0 2 1 3
30   Uganda 0 2 0 2
31   Samoa 0 1 2 3
32   Trinidad a Tobago 0 1 0 1
33   Barbados 0 0 1 1
33   Ynysoedd Cayman 0 0 1 1
33   Ghana 0 0 1 1
33   Lesotho 0 0 1 1
33   Malta 0 0 1 1
33   Mauritius 0 0 1 1
33   St Lucia 0 0 1 1
Cyfanswm 282 280 336 898

Medalau'r Cymry

Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddianus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Nicole Cooke Beicio Ras lôn
Aur Jamie Arthur Bocsio 60kg
Aur David Morgan Codi Pwysau 77kg (Cyfuniad)
Aur David Morgan Codi Pwysau 77kg (Pont a hwb)
Aur Michaela Breeze Codi Pwysau 56kg (Cipiad)
Aur Ceri Dallimore
a Johanne Brekke
Saethu Parau Reiffl 50m Tra'n Gorwedd
Arian Colin Jackson Athletau 110m dros y clwydi
Arian Matt Elias Athletau 400m dros y clwydi
Arian Hayley Tullett Athletau 1500m
Arian Iwan Thomas
Jamie Baulch
Tim Benjamin
a Matt Elias
Athletau 4x400m
Arian Huw Pritchard Beicio Ras scratch 20km
Arian John Gronow
Derek Dowling
a Kevin George Woolmore
Bowlio Lawnt Triawd gydag anabledd corfforol
Arian David Morgan Codi Pwysau 77kg (Cipiad)
Arian Michaela Breeze Codi Pwysau 56kg (Cyfuniad)
Arian Michaela Breeze Codi Pwysau 56kg (Pont a hwb)
Arian Jo Melen Judo o dan 78kg
Arian Angharad Sweet Judo dros 78kg
Arian Ryan Jenkins
ac Adam Robertson
Tenis Bwrdd Dyblau'r dynion
Arian Leanda Cave Triathlon Merched
Efydd Richard Vaughan Badminton Senglau'r dynion
Efydd Kevin Evans Bocsio dros 91kg
Efydd Anwen Butten
ac Joanna Weale
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Robert Weale Bowlio Lawnt Senglau
Efydd Jason Greenslade
David Wilkins
Richard Bowen
ac Ian Slade
Bowlio Lawnt Pedwarawd dynion
Efydd Ann Sutherland
Gillian Dawn Miles
Nina Shipperlee
ac Pam John
Bowlio Lawnt Pedwarawd merched
Efydd Gary Cole Judo o dan 60kg
Efydd Claire Scourfield Judo o dan 63kg
Efydd Timothy Davies Judo o dan 66kg
Efydd Luke Preston Judo o dan 81kg
Efydd David Roberts Nofio 100m Dull rhydd i'r anabl
Efydd James Birkett-Evans
a Michael Wixey
Saethu Parau trap

Cyfeiriadau

Dolenni allanol