T. H. Parry-Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]] a'r [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.
 
Roedd yr [[ysgrif]], ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir ''Ysgrifau'' (1928), ''Olion'' (1935), ''Lloffion'' (1942), ''[[O'r Pedwar Gwynt]]'' (1944), ''Myfyrdodau'' (1957) a ''Pensynnu'' (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.
 
Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: ''Cerddi'' (1931), ''Olion'' (1935), ''Synfyfyrion'' (1937), ''Ugain o Gerddi'' (1949) a ''Myfyrdodau'' (1957). Cyhoeddwyd ''Detholiad o Gerddi'' ym 1972 a ''Casgliad o Gerddi'' ym 1987.