Cadwgan o Landyfái: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5016647 (translate me) |
tacluso, categoriau |
||
Llinell 1:
Roedd '''Cadwgan''' neu '''Cadwgan o Landyfái''' (bu farw [[11 Ebrill]] [[1241]]), y cyfeirir ato hefyd fel '''Cadwgan o Fangor''', yn glerigwr Cymreig fu'n [[Esgob Bangor]] o [[1215]] hyd [[1236]]. Ambell dro cyfeirir ato fel '''Martin''', efallai ei enw fel mynach. Fe'i cysylltir â [[Llandyfai]], [[Sir Benfro]].<ref>[[John Edward Lloyd]] (1911), ''The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
==Bywgraffiad==
Yn ôl [[Gerallt Gymro]], roedd tad Cadwgan yn offeiriad o Wyddel a'i fam yn Gymraes. Dywedir ei fod yn enwog am ei bregethu grymus yn Gymraeg. Daeth yn [[abad]] [[abaty]] [[Sistersiaid|Sistersaidd]] [[Abaty Ystrad Fflur|Ystrad Fflur]] ac wedyn [[Abaty Hendy-gwyn ar Daf|Hendy-gwyn ar Dâf]]. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor gan [[Archesgob Caergaint]] ar [[21 Mehefin]] [[1215]] yn [[Staines]]. Mae'n debyg fod ei benodiad yn esgob oherwydd dylanwad [[Llywelyn Fawr]], oedd yn awyddus i gael Cymro yn hytrach na Norman neu Sais i'r esgobaeth, ac a oedd erbyn hyn yn ddigon grymus i sicrhau hyn.<ref>[[John Edward Lloyd]] (1911), ''The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
Yn [[1234]] cofnodir iddo ddod a llwyth llong o wenith o [[Iwerddon]] i fwydo'r tlodion yn ei esgobaeth. Yn [[1236]] ymddeolodd i Abaty Dore yn [[Swydd Henffordd]] i fyw yno fel mynach. Ysgrifennodd waith diwinyddol dan y teitl ''De modo confitendi''.<ref>[[John Edward Lloyd]] (1911), ''The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Cadwgan o Landyfai}}
[[Categori:Marwolaethau 1241]]▼
[[Categori:Abadau Cymreig]]
[[Categori:Diwinyddion Cymreig]]]
[[Categori:Esgobion Bangor]]
[[Categori:Genedigaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Ladin]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 13eg ganrif]]
▲[[Categori:Marwolaethau 1241]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
|