Tudur ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7851359 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
'''Tudur ap Gruffudd''' neu '''Tudur ap Gruffudd Fychan''' (c.[[1357]] - [[1405]]) oedd un o ddau frawd [[Owain Glyndŵr]] ac un o gapteiniaid blaenaf y tywysog hwnnw.<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Prin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyndŵr ei hun, yn fab i [[Gruffudd Fychan]] (m. cyn [[1370]]) a'i wraig [[Elen ferch Tomas ap Llywelyn]]. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd [[Sycharth]], [[maenordy]] y teulu.<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyndŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r [[Alban]] gyda'i frawd a'r brudiwr [[Crach Ffinnant]] yn [[1384]] pan gawsant eu gwysio gan y brenin [[Rhisiart II o Loegr]] i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn [[Berwick]]. Ymddengys ei fod yno tan [[1385]]. Ymhlith y milwyr yno oedd [[Henry Percy, Iarll 1af Northumberland]], a'i fab [[Hotspur]]; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd [[Iarll Arundel]] yn [[1387]] yn ogystal.<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyndŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar [[16 Medi]] [[1400]], yng [[Glyndyfrdwy|Nglyndyfrdwy]], [[Meirionnydd]], trwy gyhoeddi Glyndŵr yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]]. Cyfeirir ato fel arglwydd [[Gwyddelwern]].<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
Er na cheir cyfeiriadau ato yn bersonol, gellir derbyn fod Tudur wedi cymryd rhan mewn llawer o'r brwydro dros y blynyddoedd nesaf a welodd Glyndŵr yn ymestyn ei awdurdod dros rhan helaeth o'r wlad.<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
Lladdwyd Tudur ym [[Brwydr Pwll Melyn|Mrwydr Pwll Melyn]], ym mis Mai [[1405]].<ref>R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
==FfynhonnellCyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*R. R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995)
 
[[Categori:Cymry'r 14eg ganrif]]
[[Categori:Cymry'r 15fed ganrif]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1350au]]
[[Categori:Marwolaethau 1405]]
[[Categori:Gwrthryfelwyr Cymreig]]
[[Categori:Llinach Mathrafal]]
[[Categori:Owain Glyndŵr]]
[[Categori:Cymru'rMarwolaethau Oesoedd Canol1405]]
[[Categori:HanesPobl Cymruo Bowys]]