Andes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Venezuela → Feneswela
Newid enwau gwledydd hyd at De Affrica using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Cono de Arita, Salta. (Argentina).jpg|thumb|right|250px|Cono de Arita, Salta ([[Yr Ariannin]])]]
Mae'r '''Andes''' yn fynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol [[De America]] o [[Feneswela]] hyd [[Patagonia]], ac yn rhan nodweddiadol o dirlun gwledydd [[Ariannin]], [[Bolivia]], [[Chile]], [[Colombia]], [[Ecwador]], [[Periw]] a Feneswela. Yn rhan ddeheuol yr Andes, y mynyddoedd hyn yw'r ffin rhwng Ariannin a Chile. Ymhellach i'r gogledd mae'r Andes yn lletach, ac yn cynnwys tir uchel gwastad yr [[Altiplano]], sy'n cael ei rannu rhwng Perú, BoliviaBolifia a Chile. Credir fod y gair ''andes'' yn dod o'r gair [[Quechua]] ''anti'', sy'n golygu "crib uchel".
 
Oherwydd bod yr Andes yn uchel ac yn ymestyn am gymaint o bellter o'r de i' gogledd, mae amrywiaeth mawr o dywydd ac o blanhigion, o goedwigoedd glaw llethrau'r rhan ogleddol hyd anialwch o rew ac eira. Ymhlith anifeiliaid nodweddiadiol yr Andes mae'r [[condor]], y [[piwma]], y [[llama]] a'i berthynas yr [[alpaca]]. Yn rhan ogleddol yr Andes y datblygodd ymerodraeth yr [[Inca]] yn y bymthegfed ganrif, a gellir gweld llawer o adeiladau o'r cyfnod hwn. Mae'r bobl frodorol wedi dal eu tir yn well yn yr Andes nag yn y rhan fwyaf o gyfandir America; er enghraifft yn yr Andes yn Periw lle mae canran uchel o'r boblogaeth heddiw yn frodorion. Y prif ieithoedd a siaredir yn yr Andes (heblaw Sbaeneg) yw Quechua ac [[Aymara]]. Tyfir cnydau yn uchel ar y llethrau yn rhan ogleddol yr Andes. Y prif gnydau yw tybaco, coffi a chotwm, ac mae tatws, sy'n dod o'r Andes yn wreiddiol, yn arbennig o bwysig. Mae coca hefyd yn bwysig, ac mae llawer o drigolion yr Andes yn arfer cnoi dail coca neu'n rhoi dŵr porth arnynt i wneud math o dê.
 
Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Chile ac Ariannin, yna'r ''Cordillera Blanca'' yn Periw. Y mynydd uchaf yw [[Aconcagua]] yn Ariannin, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr - y mynydd uchaf ar gyfandir America.
 
* [[Aconcagua]] (6,962) Ariannin
Llinell 17:
* [[Incahuasi (cerro)]] (6,638) Ariannin/Chile
* [[Tupungato]] (6,550) Ariannin/Chile
* [[Sajama]] (6,542) BoliviaBolifia
* [[Illimani]] (6,462) BoliviaBolifia
* [[Illampu]] (6,421) BoliviaBolifia
 
[[Delwedd:Chimborazo from southwest.jpg|thumb|right|250px|Llosgfynydd [[Chimborazo]], Ecwador]]
 
Mae llosgfynyddoedd eraill yr Andes yn cynnwys:
 
* [[Parinacota]] (6,362 m) Chile/BoliviaBolifia
* [[Chimborazo]] (6,310 m) Ecwador
* [[Licancabur]] (5,920 m) Chile/BoliviaBolifia
* [[Cotopaxi]] (5,897 m) Ecwador