Cabinet y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd o en
 
typo
Llinell 2:
'''Cabinet y Deyrnas Unedig''' ydy'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar ran [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig]], ac sy'n cynnwys 22 o aelodau ynghyd â [[Prif Weinidog y Deyrnas Unedig]].
 
Gelwir yr aelodau hyn, a etholwyd o blith aelodau seneddol [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]] ac o [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]], yn [[GweinidoGweinidogion y Goron (DU)|Weinidogion y Goron]] a chânt eu dewis gan y Prif Weinidog. Fel rhan o'u gwaith, caiff y Gweinidogion y cyfrifoldeb o fod yn bennaethiaid ar [[Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Adrannau o'r Llywodraeth]] gyda'r teitl "Y Gweinidog dros ... (Amaeth, Amddiffyn)" ac yn y blaen. Mae aelodau'r Cabinet, ar wahân i'r Prif Weinidog, ar yr un lefel a'i gilydd.<ref>Ministers of the Crown Act 1975 s 3</ref>
 
Yn draddodiadol, y Cabinet yw'r corff uchaf o ran gwneud penderfyniadau o fewn system llywodraethu [[San Steffan]]. Gwelir gwreiddiau'r system gyfansoddiadol hon yng ngwaith arloeswyr megis [[Walter Bagehot]], a ddisgrifiodd y Cabinet fel "cyfrinach effeithiol" system wleidyddol Prydain yn ei lyfr ''[[The English Constitution]]''. Dros y degwadau diwethaf, fodd bynnag, gwelwyd lleihau pwer y Cabinet gan drosglwyddo llawer o'i bwerau i'r Prif Weinidog.<ref>[http://books.google.co.uk/books?id=-tK4nZYLyxcC&dq=british+presidency&printsec=frontcover&source=bl&ots=hV_mWgF37z&sig=mI9ZHLiKfs4Xt1aSRbRyXYLB7iQ&hl=en&ei=TZ0WSqfnHMeQjAebscj9DA&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=4#PPA13,M1 Foley, Michael, 2000 - The British Presidency tud. 13–14 drwy Google Books]</ref>