Manga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Anime geek (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Gweler hefyd: Futari Ecchi
→‎Gwreiddiau Manga: Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB
Llinell 16:
Ystyr y gair ''manga'' yn llythrenol yw "lluniau ar hap", neu "lluniau ffwrdd-â-hi". Daeth y gair i mewn i'r iaith lafar yn ystod y [[18fed ganrif]] pan gyhoeddwyd gweithiau fel ''Mankaku zuihitsu'' (1771) gan Suzuki Kankei a'r llyfr darluniau ''Shiji no yukikai'' (1798) gan [[Santo Kyoden]]. Ar ddechrau'r [[19eg ganrif]] ymddangosodd weithiau fel ''Manga hyakujo'' (1814) gan Aikawa Minwa a'r llyfr ''Hokusai manga'' sy'n cynnwys brasluniau amrywiol gan yr arlunydd ''[[ukiyo-e]]'' enwog [[Hokusai]].
 
Fodd bynnag, mae'r traddodiad i'w olrhain ymhellach yn ôl i'r [[12fed ganrif]] pan dynnai sawl artist luniau ''giga'' (yn llythrennol "lluniau digrif"), ac yn neilltuol ''chōjū jinbutsu giga'' (鳥獣人物戯画, sef "lluniau digrif o bobl ac anifeiliaid"); lluniau sy'n cynnwys sawl nodwedd o'r ''manga'' gan bwysleisio'r elfennau storïol uniongyrchol a llinellau artistaidd syml ond cryf.
 
Yn y [[19eg ganrif]], pan ddechreuodd yr [[UDA|Americanwyr]] fasnachu â Siapan, daeth artistiaid tramor i weithio yn y wlad a dysgu elfennau fel llinell, ffurf a lliw yn y traddodiad Gorllewinol; roedd hyn yn ddatblygiad newydd am fod ''ukiyo-e'' yn rhoi mwy o bwyslais ar y syniad tu ôl i'r llun mewn arddull llawer mwy rhydd. Gelwid Manga hybrid y cyfnod hwnnw yn ''Ponchi-e'' ("lluniau Punch") a, fel y cylchgrawn Seisnig o'r un enw, ''[[Punch (cylchgrawn)|Punch]]'', roedd yn canolbwyntio ar ddarlunio hiwmor a [[dychan]] gwleidyddol mewn cyfresi byrion o rwng 1-4 o luniau.