Swahili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB
Llinell 1:
{{Rhyngwici|code=sw}}
Fe berthyn '''Swahili''' i [[Teulu ieithyddol|deulu ieithyddol]] yr [[ieithoedd Niger-Congo]] ac is-deulu’r [[ieithoedd Bantu]], gyda geirfa helaeth wedi ei fenthyg o’r Arabeg, a nifer o ieithoedd eraill.
 
== Defnyddwyr Swahili ==
Llinell 12:
Dechreuodd Swahili yn iaith frodorol i’r bobl Swahili sy’n byw ar arfordir Dwyrain Affrica. Dilyna datblygiad yr iaith ddatblygiad masnach ar hyd [[cefnfor India]] trwy gysylltiadau â masnachwyr o [[Persia]], [[India]], [[Portiwgal]] ac yn bennaf [[Arabia]]. Rhoi benthyg geiriau i Swahili a wnaeth yr ieithoedd eraill hyn, o'r Arabeg yn bennaf, yn hytrach na dylanwadu ar ei gramadeg. Rhyw 30-40% o eirfa Swahili sydd o dras Arabeg. Credir bod Swahili yn iaith eang ei ddefnydd erbyn ail hanner y pymthegfed ganrif. Ehangai’r defnydd o Swahili ar hyd y ffyrdd masnach a arweiniai o’r arfordir tuag at y gorllewin. Byddai carafannau taith masnach yn cynnwys cannoedd os nad miloedd o borthorion.
 
Ysgrifennwyd Swahili yn gyntaf yn yr [[orgraff Arabaidd]]. Yn ogystal â chadw cofnodion masnachol a gweinyddol ysgrifennwyd llenyddiaeth yn Swahili, yn enwedig barddoniaeth.
 
Datblygodd yr iaith ymhellach o dan ddylanwad gweinyddiaethau Almaenig ac i raddau llai Prydeinig. Hybwyd Swahili gan genhadon Cristnogol y 19eg ganrif a ddechreuodd ysgrifennu’r iaith yn yr [[orgraff Rufeinig]] a chreu geiriaduron a llyfrau gramadeg ar gyfer Swahili. Ludwig Krapf a ysgrifennodd y gramadeg a'r geiriadur cyntaf tua [[1848]]. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yn Swahili, ''Habari ya Mwezi'' yn [[1895]] gan genhadon. Erbyn heddiw yr orgraff Rufeinig a ddefnyddir i ysgrifennu Swahili modern. Cafwyd benthyg peth geirfa o'r Almaeneg a llawer yn rhagor o'r Saesneg. Mae Swahili yn dal i fenthyca o'r Saesneg on hyd yn hyn cymharol fychan yw cyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn Swahili, o'i gymharu â chyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn aml i iaith yn Ewrop.
Llinell 18:
== Sefyllfa Swahili ac effaith datblygiadau gwleidyddol ers annibyniaeth yn Nwyrain Affrica ==
=== Tansanïa ===
Yn ystod yr ymgyrch am annibyniaeth ar dir mawr Tanganica yr oedd defnydd Swahili yn chwarae rhan sylweddol yn uno’r bobl. Oherwydd ei bod eisoes yn lingua franca ni chysidrwyd ei bod hi’n iaith oedd yn perthyn i’r bobl Swahili yn unig nac o’i ddefnyddio yn rhoi mantais i’r llwythau Swahili dros yr oddeutu 120 o lwythau eraill. Wedi i Tanganica ennill ei hannibyniaeth ym 1961 mabwysiadwyd hi’n iaith genedlaethol a pharhawyd i ddefnyddio Swahili yn fodd i uno’r bobl yn un genedl. Ym 1967 mabwysiadwyd polisi o addysgu trwy gyfrwng y Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Ar yr un pryd peidiwyd â chefnogi ymdrechion i ysgrifennu rhai o’r ieithoedd brodorol eraill am y tro cyntaf. Ni laciwyd y polisi hwn yn sylweddol tan y 1990’au. Mae Saesneg hefyd yn iaith swyddogol y llywodraeth ond yn Swahili y cynhelir bywyd cyhoeddus ar lafar. Swahili yw iaith y mosgau a'r eglwysi a'r iaith ehangaf ei defnydd ar y cyfryngau.
 
=== Cenia ===
Llinell 32:
Ymdrechwyd i hybu statws rhyngwladol Swahili trwy nifer o gyrff rhyngwladol, e.e. yr [[Undeb Affricanaidd]] a’r [[Cenhedloedd Unedig]], a thrwy astudiaeth o’r iaith mewn prifysgolion ledled y byd. Swahili a ddewiswyd yn iaith y trafodaethau yn uwch gyfarfod yr Undeb Affricanaidd yng Ngorffennaf 2004. Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Swahili ym mhrifysgol Dar Es Salaam. Rhan o waith y sefydliad yw bathu termau Swahili yn rhan o’r ymdrech i gystadlu â’r Saesneg fel iaith safonol y gellid dysgu drwyddi hyd at lefel prifysgol. Mae yn dasg enfawr i ddatblygu digon o adnoddau dysgu i gynnal addysg trwy gyfrwng Swahili ymhob pwnc hyd at lefel prifysgol. Hyd yn hyn trwy’r Saesneg yr addysgir hyd yn oed yn y dosbarthiadau uwch yn yr ysgolion uwchradd yn Tansania.
 
Yn Cenia ac yn Tansanïa mae Swahili a Saesneg ill dwy yn ieithoedd swyddogol. Mae tynfa yn bodoli rhwng yr awydd i ddefnyddio iaith Affricanaidd yn hytrach nag iaith [[imperialaeth|imperialaidd]] gynt fel prif iaith y wlad, a’r awydd i ddefnyddio a dysgu Saesneg er mwyn cystadlu’n well yn economaidd yn y byd.
 
Mae nifer o orsafoedd [[radio]] rhyngwladol yn cynnal gwasanaethau yn Swahili gan gynnwys Voice of America, y BBC, Deutschewelle, Radio Moscow rhyngwladol, Radio China rhyngwladol, All India Radio, a Radio Iran.
Llinell 59:
Daw’r pwyslais ar eiriau Swahili ar y sill cyn yr olaf (fel yn Gymraeg), heblaw am eithriadau ar gyfer rhai geiriau benthyg o’r Arabeg ac ieithoedd eraill. Gan amlaf, os gwelwch ddwy lafariad wedi eu hysgrifennu un ar ôl y llall maent yn cyfrif fel dwy sill. Felly yn y gair '''kioo''' (drych) ceir 3 sill ac mae pwyslais y gair ar yr '''o''' gyntaf. Mae '''m''' o flaen cytsain arall ar ddechrau gair weithiau yn sill wrth ei hunan.
 
Ysgrifennir Swahili yn ôl y sain. Yngenir y cytseiniaid yn ddigon tebyg i’r un cytseiniaid yn Saesneg heblaw am '''r''' sy’n debycach i '''r''' Gymraeg. Mae '''w''' ac '''y''' yn gytseiniaid yn Swahili. Yngenir '''ng''' yn '''ng-g'''. Yngenir '''ng’''' rhywbeth yn debyg i '''ng''' Gymraeg, e.e. '''ng’ombe''' (buwch). Yngenir '''dh''' fel '''dd''' Gymraeg. Yngenir '''gh''' rhywle rhwng '''ch''' Gymraeg a sŵn garglio.
 
Yngenir llafariaid Swahili ('''a''', '''e''', '''i''', '''o''', '''u''') yn ddigon tebyg i lafariaid y Gymraeg heblaw bod '''u''' yn cael ei ynganu fel '''w''' Gymraeg. Mae’r llafariaid fel arfer yn weddol fyr ond bod '''u''' ryw hanner ffordd rhwng yr '''w''' yn y gair 'twr' a’r gair 'tŵr' yn Gymraeg. Pan dyblir llafariaid maent yn hir.
Llinell 70:
Mae [[ieithoedd cyflynol]] yn adeiladu geiriau cyfansawdd trwy ychwanegu rhag- ac ôlddodiaid at gnewyllyn gair. Ceir nifer fawr o ragddodiaid yn Swahili, o flaen berfau, enwau ac ansoddeiriau. Er enghraifft, '''Ki-''' yw’r rhagddodiad mewn nifer o ieithoedd Bantu sy’n dynodi, ymhlith pethau eraill, iaith. '''M-''' yw’r rhagddodiad sy’n dynodi person neu anifail. '''U-''' yw’r rhagddodiad sy’n dynodi tir neu enw haniaethol. Felly:
 
* ''Kiswahili'': 'Swahili' (yr iaith)
* ''Mswahili'': person o lwyth y Swahili, neu berson sy’n siarad Swahili (hefyd person ffraeth neu dwyllwr!)
* ''Uswahili'': rhan o arfordir Tansanïa, neu'r cyflwr meddwl o fod yn berson Swahili.
 
Nid yw ‘Swahili’ yn air sy’n bod ar ei ben ei hun o gwbl. Gyda llaw, mae’r cnewyllyn -swahili yn dod o’r Arabeg ''As-Sawahili'' sydd yn golygu rhywbeth yn debyg i ‘drigolion yr arfordir’.