Difference between revisions of "Y Gymanwlad"

2 bytes removed ,  6 years ago
Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB
(Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB)
Olynydd yr [[Ymerodraeth Brydeinig]] yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol yn [[Statud Westminster]] ym [[1931]].
 
Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yr [[India]] o dan ddylanwad [[Mohandas Gandhi]]) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'r [[Ail Ryfel Byd]]. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Burma (a elwir yn awr yn [[Myanmar]]; [[1948]]) a [[De Yemen]] ([[1967]]). Bu [[Iwerddon]] yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym [[1949]]. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.
 
Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd y [[Môr Tawel]] yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau ag [[Awstralia]]. Mae [[Namibia]] yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli gan [[De Affrica]] o [[1920]] hyd at [[1990]], sef blwyddyn ei hannibyniaeth. Ymunodd [[Camerŵn]] ym [[1995]] serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafodd [[Mosambic]] ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.
 
Gwaharddwyd aelodaeth [[Ffiji]] a [[Pacistan|Phacistan]] am amser o achos cwymp eu llwyodraeth democrataidd a sefydliad llywodraeth milwrol. Gwaharddwyd [[De Affrica]] yn ystod adeg [[Apartheid]] ac ni ailgydiodd yn ei haelodaeth hyd at [[1994]]. Gwaharddwyd [[Nigeria]] rhwng [[1995]] a [[1999]] a [[Simbabwe]] ers [[2002]] oherwydd problemau polisiau [[Robert Mugabe]].
== Strwythr ac amcanion ==
 
[[Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig|Elisabeth II]] yw pen y sefydliad. Ers [[1965]] mae [[Swyddfa'r Gymanwlad]] yn [[Llundain]]. Ar hyn o bryd [[Don MacKinnon]], a oedd gynt yn Weinidog Tramor [[Seland Newydd]], yw [[Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad]].
 
Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemau [[Rhodesia]], yn y [[1970au]], ac apartheid yn Ne Affrica, yn y [[1980au]]. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.
 
'''[[De America]]'''
* [[GuyanaGaiana]] ([[1966]])
 
'''[[Affrica]]'''
* [[Samoa]] ([[1970]])
* [[Tonga]] ([[1970]])
* [[FijiFfiji]] ([[1970]]; gadawodd ym [[1987]] ond ail-ymunodd ym [[1997]])
* [[Papua New Guinea]] ([[1975]])
* [[Ynysoedd Solomon]] ([[1978]])
359,040

edits