Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Maredudd ab Owain"

Ychwanegwyd 470 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
tacluso, categoriau
B (Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2670611 (translate me))
(tacluso, categoriau)
[[Delwedd:Wales 986-99 (Maredudd ab Owain).svg|200px|bawd|Teyrnas Maredudd ab Owain ar ei eithaf (glas).]]
Roedd '''Maredudd ab Owain''' (bu farw [[999]]) yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Deheubarth]]. Llwyddodd i sefydlu ei awdurdod dros y rhan fwyaf o [[Cymru|Gymru]], ac eithrio'r de-ddwyrain.<ref>John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Roedd Maredudd yn fab i [[Owain ap Hywel|Owain ap Hywel Dda]], brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn [[986]] llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo [[Cadwallon ab Ieuaf]]. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, [[Hywel Dda]] ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn [[988]] daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]] yn rhan o'i deyrnas.<ref>John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr [[Mercia]] ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r [[Llychlynwyr]]. Yr oedd ymosodiadau y [[Daniaid]] yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn [[987]] ymosododd y Daniad [[Godfrey Haroldson]] ar [[Ynys Môn]] gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.<ref>John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Bu Maredudd farw yn [[999]] ac mae'n cael ei ddisgrifio ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".<ref>Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20.'' (Caerdydd, 1941), tud. 13a.</ref> Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach [[Idwal Foel]] gan [[Cynan ap Hywel]].<ref>John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Ffynonellau==
*John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.)
*Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20.'' (Caerdydd, 1941)
 
{{dechrau-bocs}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{DEFAULTSORT:Maredudd ab Owain}}
[[Categori:HanesCymry'r Cymru10fed ganrif]]
[[Categori:Llinach Dinefwr]]
[[Categori:Marwolaethau 999]]
[[Categori:Teyrnoedd Cymru]]
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Hanes Cymru]]