Gruffudd ap Nicolas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ll is
tacluso, categoriau
Llinell 1:
Uchelwr o [[Sir Gaerfyrddin]] a gofir yn bennaf fel noddwr [[Eisteddfod Caerfyrddin]] (tua [[1451]]) oedd '''Gruffudd ap Nicolas''' neu '''Gruffudd ap Nicolas ap Phylib ap Syr Elidir''' (fl. [[1425]] - [[1456]]). Roedd yn arglwydd [[Dinefwr]] a stiward lleol i Frenin Lloegr yn yr ardal. Fe'i ystyrir y gŵr mwyaf ei allu a'i awdurdod yngyn ngorllewinne-orllewin Cymru yn ei gyfnod.
 
==Bywgraffiad==
Daeth Gruffudd yn [[siryf]] [[Caerfyrddin]] yn 1436. Mae astudiaethau diweddar yn pwysleisio'r ffyrdd dichellgar a ddenfyddioddddefnyddiodd i grynhoi awdurdod i'w ddwylo ei hun ac i ymgyfoethogi ar draul arglwyddi Seisnig absennol ac uchelwyr Cymreig fel ei gilydd (ond mewn hyn o beth roedd yn ddrych i'w ddosbarth yn yr oes ansefydlog honno). Ym mywgraffiad Syr [[Rhys ap Tomas]], disgrifir Gruffudd fel,
 
:"A man of hott, firie, and cholerrick spiritt; one whos counsells weare all ''in turbido'', and therefore narurallie fitlie composed and framed for the times: verie wise he was, and infinitlie subtile and craftie, ambitiouse beyond measure, of a busie stirring braine."<ref>Dyfynnir gan Dafydd Johnston (gol.), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd, 1995), tud. 528.</ref>
 
Tua'r flwyddyn 1451, cynhaliodd [[eisteddfod]] enwog yng [[Castell Caerfyrddin|Nghastell Caerfyrddin]]. Tyrrodd nifer o feirdd a cherddorion yno o bob cwr o Gymru i gystadlu, ond prif bwrpas yr eisteddfod oedd ad-drefnu rheolau [[Cerdd Dafod]], yr hyn a wnaed gan y bardd [[Dafydd ab Edmwnd]], enillydd y Gadair, a osododd allan y [[pedwar mesur ar hgain]]. Gruffudd ap Nicolas ei hun a feirniadodd, sy'n dangos ei fod yn gyfarwydd â gwaith y beirdd a'r traddodiad barddol Cymraeg.
 
Ymhlith y beirdd a ganodd glod Gruffudd ap Nicolas oedd [[Lewys Glyn Cothi]], [[Gwilym ab Ieuan Hen]], a Dafydd ab Edmwnd ei hun.
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Llyfryddiaeth==
* Ralph A. Griffiths, ''Syr Rhys ap Thomas and his Family'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1993). Cyfrol sy'n cynnwys pennod ar Gruffudd ap Nicolas a thestun ''The Life of Sir Rhys ap Thomas''.
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
{{DEFAULTSORT:Gruffudd ap Nicolas}}
[[Categori:CymruCymry'r Oesoedd15fed Canolganrif]]
[[Categori:Genedigaethau'r 15fed ganrif]]
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1450au]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]