Gwerthefyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 8 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1380878 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
'''Gwerthefyr''' neu '''Gwerthefyr Fendigaid''' ([[Lladin]]: ''Vortimer'') (fl. [[5ed ganrif]]) oedd fab [[Gwrtheyrn]] brenin y [[Brythoniaid]] yn [[hanes traddodiadol Cymru]]. Dywedir ei fod yn rhyfelwr cadarn a enillodd sawl brwydr yn erbyn y [[Sacsoniaid]] oedd yn ceisio meddianu [[Ynys Prydain]].<ref>Henry Lewis (gol.), ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942). Tud. 276.</ref>
 
==Hanes a thraddodiad==
Cyfeirir at Werthefyr gan [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]''. Ar ôl blynyddoedd o rhyfelaryfela yn erbyn y goresgynwyr gorchmynodd i'w deulu i'w gladdu ar arfordir de [[Lloegr]] i amddiffyn y wlad, ond anwybyddwyd hynny gyda chanlyniadau trychinebus. Ceir yr un hanes, i bob pwrpas, yng ngwaith [[Sieffre o Fynwy]], ond gyda'r gwahaniaeth fod ei lysfam yn ei wenwynu. Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] yn gwrthddweud Nennius a Sieffre, fodd bynnag, ac yn dweud bod esgyrn y brenin marw wedi'u claddu ym mhrif borthladdoedd yr ynys a bod hynny wedi atal ymosodiadau'r Sacsoniaid am gyfnod.<ref>Henry Lewis (gol.), ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942). Tud. 276.</ref>
 
Mae'n eithaf posibl fod yr hanes traddodiadol yn seiliedig ar ffigwr hanesyddol a deyrnasodd yn [[Dyfed|Nyfed]]. Cyfeiria [[Gildas]] at un [[Vortiporius]] fel ''Demetarum tyranne Vortipori'' (Vortipori brenin Dyfed). Fe'i coffeir mewn arysgrif gynnar mewn Lladin ac [[Ogam]] o [[Gwarmacwydd|Warmacwydd]], [[Sir Benfro]], a ddaeth yno o [[Castell Dwyran|Gastell Dwyran]] ger [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Yn Lladin ceir yr arysgrif ''Memoria Voteporigis Protictoris'' ac yn Ogam ''Votecorigas''. Mae'n bosibl mai'r cof am y brenin hwn a geir yn sail i'r traddodiadau am Werthefyr a Vortiporius fel ei gilydd ('Gw(e)rthefyr' yw'r ffurf a geir ar enw'r ddau frenin yn y cyfieithiadau Cymraeg Canol o waith Sieffre o Fynwy).<ref>Bernhard Maier, ''Dictionary of Celtic Religion and Culture'' (Boydell Press, 1997).</ref>
 
Yn ôl traddodiad arall roedd Gwerthefyr, trwy ei ferch Anna, yn daid i [[Non]], mam [[Dewi Sant]].<ref>Bernhard Maier, ''Dictionary of Celtic Religion and Culture'' (Boydell Press, 1997).</ref>
 
===Ffynonellau=Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*Henry Lewis (gol.), ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942). Tud. 276.
*Bernhard Maier, ''Dictionary of Celtic Religion and Culture'' (Boydell Press, 1997)
 
[[Categori:Cymry'r 5ed ganrif]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:HanesLlenyddiaeth CymruGymraeg yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Teyrnas Dyfed]]