Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cadafael ap Cynfeddw"

Ychwanegwyd 450 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
tacluso, categoriau
B (Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2383873 (translate me))
(tacluso, categoriau)
Roedd '''Cadafael ap Cynfeddw''' (teyrnasodd [[634]]–''c.'' [[655]]), a adwaenir hefyd fel '''Cadafael ''Cadomedd''''', yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
 
==Bywgraffiad==
Pan laddwyd [[Cadwallon ap Cadfan]]. brenin Gwynedd, yn 634, cipiwyd y deyrnas gan Cadafael ap Cynfeddw. Yr oedd gan Gadwallon fab, [[Cadwaladr ap Cadwallon]], ond yr oedd yn dal yn blentyn. Mae'n ymddangos nad oedd Cadafael yn aelod o'r teulu brenhinol, a gellir casglu iddo gipio'r orsedd trwy rym.<ref>John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Gwnaeth gynghrair gyda [[Mercia]] ac ymladdodd ochr yn ochr a [[Penda]] brenin Mercia yn erbyn [[Northumbria]]. Pan ymosododd Penda ar Northumbria yn [[655]], yr oedd Cadafael a'i fyddin gydag ef. Gorchfygwyd byddin Penda gan Oswy ym [[Brwydr Winwaed|Mrwydr Winwaed]]. Yr oedd Cadafael a'i fyddin wedi troi am adref y noson cynt, ac ni chymerasant ran yn yr ymladd. Mae'n ansicr a oedd Cadafael yn fwriadol yn dymuno osgoi ymladd ynteu nad oedd yn gwybod fod byddin Oswy yn y cyffiniau. Beth bynnag yr eglurhad, enillodd yr enw sarhaus "Cadomedd", hynny yw "gwrthodwr brwydr".<ref>John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Mae'n debyg na fu Cadafael yn frenin Gwynedd yn hir ar ôl y digwyddiad yma, ond nid oes gwybodaeth beth ddigwyddodd iddo. Rywbryd yn y blynyddoedd nesaf daeth Cadwaladr ap Cadwallon yn frenin.<ref>John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|}
 
{{DEFAULTSORT:Cadafael ap Cynfeddw}}
[[Categori:CymruCymry'r Oesoedd7fed Canolganrif]]
[[Categori:Genedigaethau'r 7fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 650au|Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Marwolaethau'r 650au|Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw]]