Cynan Dindaethwy ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2670643 (translate me) |
tacluso, categoriau |
||
Llinell 1:
Yr oedd '''Cynan Dindaethwy ap Rhodri ''' (bu farw [[816]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
==Bywgraffiad==
Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i [[Rhodri Molwynog ap Idwal|Rhodri Molwynog]]. Bu Rhodri farw yn [[754]] ac nid oes sôn am Cynan hyd [[813]], felly awgrymir yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth [[Caradog ap Meirion]], y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a [[Hywel ap Rhodri Molwynog|Hywel]], ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio [[Ynys Môn]] oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).</ref>
Mae'r gair ''Dindaethwy'' yn ei enw yn gyfeiriad at gwmwd [[Dindaethwy]] (''Tindaethwy''), un o ddau gwmwd [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn ne-ddwyrain [[Môn]]. Gorweddai [[cwmwd]] Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Posiblrwydd arall yw mai Castell Dindaethwy a olygir wrth y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, [[Porthaethwy]] ar Ynys Môn ydoedd. Gellir derbyn yn bur hyderus felly mai brodor o'r rhan yma o Fôn oedd Cynan.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).</ref>
Daeth ei ferch Esyllt yn fam i [[Merfyn Frych]], tad [[Rhodri Mawr]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 17 ⟶ 18:
|}
{{DEFAULTSORT:Cynan Dindaethwy}}
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]▼
[[Categori:
[[Categori:
[[Categori:Genedigaethau'r 8fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 816]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
▲[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
|