Gemau'r Gymanwlad 2010: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
}}
 
'''Gemau'r Gymanwlad 2010''' oedd y pedwerydd tro ar bymtheg i [[Gemau'r Gymanwlad]] gael eu cynnal. [[Delhi Newydd]], [[India]] oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 14 Hydref. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn [[Jamaica]] ym mis Tachwedd 2003 gyda [[Delhi Newydd]] yn ennill y bleidlais gyda 46 pleidlais i 22 [[Hamilton]], [[Ontario]], [[Canada]].
 
Cyflwynyd [[Tenis]] i'r Gemau am y tro cyntaf ond bu raid i'r trefnwyr beidio cynnwys [[Triathlon]] gan nad oedd unrhyw leoliad addas ar gyfer y cymal nofio<ref>http://www.highbeam.com/doc/1G1-183090979.html</ref>. Er bod galw am ail gyflwyno [[Criced]] nid oedd [[Bwrdd Criced India]]'n awyddus i ddilyn cais y trefnwyr am gystadleuaeth 20Pelawd yn hytrach na chystadleuaeth un dydd<ref>http://www.espncricinfo.com/ci/content/story/234191.html</ref>.