William Watkin Edward Wynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 20:
 
Fe gynrychiolodd Wynne etholaeth Meirion yn San Steffan fel Aelod Seneddol am 13 mlynedd o 1852 i 1865 cyn ildio ei sedd i'w mab [[William Robert Maurice Wynne]]. Yr oedd yn Uchel Sirif Meirion, yn Dirpwy Raglaw, Ystys Heddwch, Ynad Sirol ac yn Gwnstabl Castell Harlech. <ref> Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd Cyf 1 Rhif 2 t 69-76 (1949) ''William Watkin Edward Wynne''</ref>
 
== Hynafiaethydd==
 
Y mae Wynne yn cael ei gofio yn bennaf fel hynafiaethydd. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes eglwysig, archaeoleg, achyddiaeth, hanes lleol, ystyr enwau llefydd a chaglu a thrawsysgrifio llawysgrifau.
 
Trwy ei briodas ag Elizabeth Pulston daeth yn berchennog ar gasgliad llyfrgell Penbedw. Fe drawsysgrifiodd nifer o lawysgrifau o gasgliad Brogyntyn ac ym 1859 etifeddodd casgliad Hengwrt drwy ewyllys Syr Robert Williems Vaughan. Ar ôl marwolaeth meibion Wynne drosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth, lle mae'n parhau fel un o gasgliadau pwysicaf y llyfrgell.<ref>[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=186&L=1 |Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llawysgrifau Peniarth] Adalwyd Hydref 13 2013</ref>
 
Ym 1852 cafodd ei ethol yn gymrawd o'r Society of Antiquaries, yr oedd yn un o ymddiriedolwyr a llywydd Cymdeithas Archeolegol Cambrian ac yn is lywydd y Powysland Club. Fe gyhoeddodd nifer fawr o erthyglau yng nghylchgronau a thrafodion hanesyddol y cyfnod megis Montgomeryshire Collections, Y Cymmrodor, Beygones gan gynnwys bron i ddeugain erthygl yn Archaeologia Cambrensis. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd dau o'i erthyglau A Historical and Topographical Guide to Harlech Castle ac A History of the Parish of Llanegryn fel llyfrynnau unigol
 
== Marwolaeth==
Bu farw W W E Wynne ar 9fed Mehefin 1880 chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanegryn.<Ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WYNN-PEN-1275.html|Y Bywgraffiadur ar lein WYNNE (TEULU), Peniarth , sir Feirionnydd] Adalwyd Hydref 13 2013</ref>
 
==Cyfeiriadau==