William Watkin Edward Wynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25:
Y mae Wynne yn cael ei gofio yn bennaf fel hynafiaethydd. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes eglwysig, archaeoleg, achyddiaeth, hanes lleol, ystyr enwau llefydd a chaglu a thrawsysgrifio llawysgrifau.
 
Trwy ei briodas ag Elizabeth Pulston daeth yn berchennog ar gasgliad llyfrgell Penbedw. Fe drawsysgrifiodd nifer o lawysgrifau o gasgliad [[Brogyntyn]] ac ym 1859 etifeddodd casgliad [[Hengwrt]] drwy ewyllys Syr [[Robert Williames Vaughan]]. Ar ôl marwolaeth meibion Wynne drosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] newydd yn Aberystwyth, lle mae'n parhau fel un o gasgliadau pwysicaf y llyfrgell.<ref>[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=186&L=1 |Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llawysgrifau Peniarth] Adalwyd Hydref 13 2013</ref>
 
Ym 1852 cafodd ei ethol yn gymrawd o'r Society of Antiquaries, yr oedd yn un o ymddiriedolwyr a llywydd Cymdeithas Archeolegol Cambrian ac yn is lywydd y Powysland Club. Fe gyhoeddodd nifer fawr o erthyglau yng nghylchgronau a thrafodion hanesyddol y cyfnod megis Montgomeryshire Collections, Y Cymmrodor, Beygones gan gynnwys bron i ddeugain erthygl yn Archaeologia Cambrensis. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd dau o'i erthyglau A Historical and Topographical Guide to Harlech Castle ac A History of the Parish of Llanegryn fel llyfrynnau unigol