dim crynodeb golygu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7110271 (translate me) |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Sant]] neu [[esgob]] [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Euddogwy''' ([[Lladin]]: '''Oudoceus''') (blodeuai tua diwedd y [[6ed ganrif]]).
==Hanes a thraddodiad==
Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn [[Llyfr Llandaf]], lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o [[Llydaw|Lydaw]], ac Anauued, chwaer sant [[Teilo]].<ref>J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893).</ref> Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth [[Archesgob Caergaint]] a mynd ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]], ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd [[Esgobaeth Llandaf|esgobaeth newydd Llandaf]], a sefydlwyd gan y [[Y Normaniaid yng Nghymru|Normaniaid]], i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul [[Esgobaeth Tyddewi]] a'r Eglwys Gymreig.
Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]] iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llaneuddogwy]] ([[Llandogo]]) yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.<ref>G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans.</ref>
Ei wylmabsant yw [[2 Gorffennaf]].
==Llyfryddiaeth==
▲*''Vita Beati Oudocei'': J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Seintiau Cymru]]▼
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]]▼
[[Categori:Cymry'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Esgobaeth Llandaf]]
▲[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]]
▲[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwent]]
|