Seiriol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7446899 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1:
[[Delwedd:Wpe2D.jpg|bawd|250px|Ffynnon Seiriol, Penmon]]
[[Delwedd:FfynnonSeiriol 1.jpg|bawd|250px|Ffynnon Seiriol, Penmon]]
 
Sant o [[Cymry|Gymro]] oedd '''Seiriol''' neu '''Seiriol Wyn''' (fl. tua [[550]]). Yn ôl yr [[achau]] traddodiadol roedd yn fab i Owain Danwyn ab [[Einion Yrth]] ap [[Cunedda Wledig]] (sefydlydd traddodiadol [[teyrnas Gwynedd]]). Os gwir hynny buasai'n gefnder i'r brenin [[Maelgwn Gwynedd]] (fl. hanner cyntaf y [[6ed ganrif]]).<ref>A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', ''Gwŷr Môn'' (1979).</ref>
 
==Hanes a thraddodiad==
Fel yn achos nifer o'r seintiau cynnar, dywedir ei fod yn ddisgybl i Sant [[Illtud]] ac wedi astudio yn ysgol enwog y sant hwnnw yn [[Llanilltud Fawr]]. Ar ôl cyfnod yn y de daeth i [[Gogledd Cymru|ogledd Cymru]] a sefydlu [[clas]] ([[mynachlog]] gynnar) ym [[Penmon|Mhenmon]] ar safle [[Priordy Penmon]], ar ben de-ddwyreiniol [[Ynys Môn]]. Ceir 'Capel Seiriol' a 'Ffynnon Seiriol' yno o hyd. Roedd ganddo gell a mynachlog ar [[Ynys Seiriol]] hefyd, gyferbyn â Phenmon lle rhed [[Afon Menai]] i [[Bae Conwy|Fae Conwy]].<ref>A.D. Carr, 'Seiriol a Chybi' yn, [[Bedwyr Lewis Jones]] (gol.), ''Gwŷr Môn'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).</ref>
 
Mae traddodiad yn ei gysylltu â [[Penmaenmawr|Phenmaenmawr]] hefyd. Dywedir bof ganddo [[capel|gapel]] ar y [[Penmaen-mawr]], y mynydd mawr rhwng Penmaenmawr a [[Llanfairfechan]]. 'Clipyn Seiriol' oedd enw'r llecyn. Coffheir Seiriol ym Mhenmaenmawr yn enw un o eglwysi'r dref heddiw (sefydliad diweddar yw'r eglwys ei hun).<ref>A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', ''Gwŷr Môn'' (1979).</ref>
 
Mae hen chwedl yn cysylltu enw Maelgwn Gwynedd â Seiriol a'i gyfoeswr [[Cybi]] (nawddsant [[Caergybi]] ar Fôn). Rhoddodd Maelgwn dir i'r ddau i sefydlu eu mynachlogydd. Ystyrid eglwysi Penmon a Chaergybi ymhlith y pwysicaf yn y gogledd am ganrifoedd.<ref>A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', ''Gwŷr Môn'' (1979).</ref>
 
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin]] a ysbrydolodd gerdd gan Syr [[John Morris-Jones]]<ref>John Morris-Jones, ''Caniadau'' (Rhydychen, 1907).</ref>, arferai 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng [[Clorach|Nghlorach]] yng nghanolbarth yr ynys. [[Lewis Morris]] yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y [[18fed ganrif]]. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn!
 
Cedwir ei ŵyl ar [[1 Chwefror]].<ref>A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', ''Gwŷr Môn'' (1979).</ref>
 
==FfynhonnellLlyfryddiaeth==
*[[A. D. Carr]], 'Seiriol a Chybi' yn, [[Bedwyr Lewis Jones]] (gol.), ''Gwŷr Môn'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
*John Morris-Jones, ''Caniadau'' (Rhydychen, 1907).
 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Seintiau Cymru]]
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Cymry'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]