Mynydd Machen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B update reference web site
trosglwyddo gwybodaeth o erthygl Machen (dim ffynhonell) sy'n fwy addas yma
Llinell 23:
 
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn [[Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu|rhestri arbennig]] yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n [[Marilyn (mynydd)]]. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.<ref>[http://www.hills-database.co.uk/downloads.html “Database of British and Irish hills”]</ref> Uchder y copa o lefel y môr ydy 362 metr (1188 [[troedfedd|tr]]). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
 
==Chwedl Sant Pedr a'r Diafol==
Dywed un chwedl y bu [[Sant Pedr]] yn ymweld a Chymru. Ar ymddangosiad sydyn y Diafol, cododd nifer o feini mawrion a'u gosod yn ei ffedog er mwyn gallu eu cario yn rhwyddach. Erlidiwyd ef gan y Diafol, a bu'r ddau'n neidio o gopa un mynydd i'r llall. Wrth i'r Diafol lanio ar gopa Mynydd Machen, arhosodd er mwyn dal ei anadl a dechreuodd Sant Pedr daflu'r meini tuag ato, gan eu gadael ar wasgar o gwmpas y fro.
 
 
 
==Gweler hefyd==