William Glyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q14480438
cat
Llinell 1:
'''William Glyn''' neu '''William Glynn''' ([[1504]] - [[21 Mai]] [[1558]]) oedd [[Esgob Bangor]] o [[1555]] hyd ei farw. Ef oedd yr esgob [[Eglwys Gatholig|Catholig]] olaf ym [[Bangor|Mangor]].
 
==Bywgraffiad==
Ganed Glyn yn [[Heneglwys]], [[Ynys Môn]], yn fab i John Glyn. Addysgwyd ef yng [[Coleg y Breninesau, Caergrawnt|Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt]]. Mae'n ymddangos iddo gydymffurfio a newidiadau crefyddol y brenin [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]], er iddo ymddiswyddo o gadair ei goleg yn ystod teyrnasiad [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]]. Pan ddaeth y frenhines [[Mari I, brenhines Lloegr|Mari]] i'r orsedd, daeth yn llywydd Coleg y Breninesau yn [[1553]], ac yr oedd yn un o'r rhai a yrrwyd i ddadlau â [[Nicholas Ridley]] a [[Hugh Latimer]] yn [[1554]]. Aeth i [[Rhufain|Rufain]] yn 1555, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno penodwyd ef yn Esgob Bangor.
 
Gadawodd fab o'r enw Gruffydd Glyn, fu'n Siryf [[Sir Gaernarfon]]. Penodwyd [[Morys Clynnog]] yn Esgob Bangor fel olynydd iddo, ond bu farw'r frenhines Mari a bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gysegru.
 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Esgobion Bangor|Glyn, William]]
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl o Ynys Môn|Glyn, William]]
 
[[Categori:Genedigaethau 1504|Glyn, William]]
[[Categori{{DEFAULTSORT:Marwolaethau 1558|Glyn, William]]}}
[[Categori:Cymry'r 16eg ganrif]]
[[Categori:Esgobion Bangor|Glyn, William]]
[[Categori:Genedigaethau 1504|Glyn, William]]
[[Categori:Marwolaethau 1558]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn|Glyn, William]]