Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Matthew de Englefield"

Ychwanegwyd 303 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
tacluso, categoriau
(→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB)
(tacluso, categoriau)
[[Esgob Bangor]] ganol y [[14eg ganrif]] oedd '''Matthew de Englefield''' (tua [[1290]] - [[1357]]). Mae'n bosibl fod 'Mathew de Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhirid''' o [[Tegeingl|Degeingl]].
 
==Tras==
Os cywir yr uniaethiad hwnnw, sy'n dra thebygol, yr oedd yn frawd i'r uchelwr Rhotbert ab Iorwerth o Degeingl ac yn perthyn i deulu a olreiniai ei dras yn ôl i Ednywain Bendew II, o linach brenhinoedd [[Teyrnas Powys]].
 
==Bywgraffiad==
Cafodd Matthew/Madog ei ethol yn Esgob Bangor ar [[25 Chwefror]] [[1327]] a'i gysegru ar [[12 Mehefin]] [[1328]]. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn [[1357]] gan [[Thomas Ringstede]].
 
==Noddwr i'r beirdd==
Mae un o dwy gerdd sydd wedi goroesi o waith y bardd [[Gronw Gyriog]] yn [[awdl]] foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym [[Bangor|Mangor]]. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, fel "Dôr ac iôr Bangor" "heilwin" (hael a'i win), ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog.<ref>W. CwynaDyfed eiRowlands olynyddac ThomasAnn RingstedeParry fodOwen Madog wedi esgeuluso(gol.), adeiladau'rGwaith eglwysGronw gan gyfeirio at "'Gyriog'waste, andyn dilapidations''".Gwaith EfallaiGronw maiGyriog, cyfeirioIorwerth atab fywydy moethusCyriog yrac esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdderaill'' sydd(Aberystwyth, yma1997).</ref>
 
Cwyna ei olynydd Thomas Ringstede fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "''waste and dilapidations''". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.<ref>W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen (gol.), 'Gwaith Gronw Gyriog', yn ''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997).</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen (gol.), 'Gwaith Gronw Gyriog', yn ''Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill'' (Aberystwyth, 1997)
 
{{DEFAULTSORT:Englefield, Mathew de}}
[[Categori:EsgobionCymry'r Bangor14eg ganrif]]
[[Categori:Esgobion Bangor]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1290au]]
[[Categori:Marwolaethau 1357]]
[[Categori:Esgobion Bangor]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]