Rhys Fawr ap Maredudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Amau a ydy'r darn hwn yn cyfeirio at Rhys ap Thomas. Gweler: http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/poem/?poem=014
→‎Milwr ym Maes Bosworth: y Rhys anghywir!
Llinell 7:
 
Roedd o linach uchelwrol ac ymfalchiai y gallai olrhain ei gyndadau 500 mlynedd, i [[Marchweithian]] - un o sefydlwyr pymtheg llwyth Gwynedd. Cadarnhaodd [[Edward Lhuyd]] yn Rhydychen yn 1707 ac eraill wedyn ddilysrwydd ei linach ddi-dor. Roedd Rhys hefyd yn gyfoethog iawn. Cafodd Lowri a Rhys bump mab a chwech o ferched.
 
==Milwr ym Maes Bosworth==
Cyfarfu Rhys a'i ddynion ('Gwŷr y Wlad Ucha') Harri Tudur yng [[Cefn Digoll|Nghefn Digoll]] ger [[y Trallwng]] ac aeth y ddau garfan yn ei blaenau drwy'r [[Amwythig]], Stafford, [[Lichfield]] ac yna [[Market Bosworth|Bosworth]] gan gyrraedd ar ddydd Sul y 21ain o Awst.
 
Yn ôl traddodiad llafar, lladdwyd [[Rhisiart III, brenin Lloegr]], gan Rhys ac i ddogfennau a brofai hynny fodoli ym [[Rhiwlas]], lle trigai cangen o deulu Rhys. Canodd y bardd [[Guto'r Glyn]]:<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/poem/?poem=014 Gwefan Guto'rGlyn.net]; adalwyd 22 Hydref 2013.</ref>
 
:Syr Rhys ni welais ŵr gwell
:Na'i gystal yn ei gastell.
:Concweiriodd y King Harri
:Y maes, drwy nerth ein meistr ni...
:Lladd y baedd, eilliodd ei ben.
 
Gellir dehongli'r darn olaf fel cadarnhad i'r frwydr gael ei hennill oherwydd Rhys, yn ôl Emyr Wyn Jones yn ei lyfr ''Bosworth Field'': y baedd oedd symbol herodraethol Rhisiart III.
 
Am ei drafferth, derbyniodd Rhys lawer o diroedd gan y brenin newydd.
 
==Llyfryddiaeth==