Iolo Morganwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 41:
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd ''Edward Williams'', ynym [[1747]], ym mhentre Pennon ym mhlwyf [[Llancarfan]] ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref [[Trefflemin]], rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan [[Afon Ddawan]], ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'inoes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn [[Lloegr]], ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, [[bardd]] a radical. Yn [[Llundain]] roedd yn aelod ymroddgar o'r [[Cymdeithas y Gwyneddigion|Gwyneddigion]], cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys [[William Owen Pughe]] ac [[Owen Jones (Owain Myvyr)|Owain Myvyr]]. Daeth i adnabod [[Robert Southey]] a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o [[opiwm]] ar ffurf ''laudanium''.
 
Tra yng ngharchar [[Caerdydd]] dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn [[Taliesin Williams|Daliesin]]. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth.