Ardudwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3404603 (translate me)
tacluso, delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Ardudwy from the Diffwys ridge - geograph.org.uk - 1755073.jpg|250px|bawd|Arfordir Ardudwy o lethrau'r [[Diffwys]] yn y [[Rhinogydd]].]].
Ardal hanesyddol yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Ardudwy''', a fu'n un o hen [[cantref|gantrefi]] [[teyrnas Gwynedd]] ac efallai'n mân-deyrnas annibynnol cyn hynny.
 
==Hanes a thraddodiadau==
Fel cantref canoloesol, daeth yn un o ddau [[Cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Dunoding]], gydag [[Eifionydd]]. Pan greuwyd yr hen siroedd yn [[1284]] cafodd ei gynnwys yn [[Sir Feirionnydd]].<ref>[[John Edward Lloyd]], ''A History of Wales'' (1911).</ref> Yn y 14eg ganrif collwyd ardal [[Nanmor]] i [[Sir Gaernarfon]]. Roedd Ardudwy yn ymestyn o'r [[Traeth Mawr]] yn y gogledd i [[Afon Mawddach]] yn y de. Ffiniai â chwmwd Eifionydd yn Dunoding ei hun, [[Arfon]], a [[Nant Conwy]] yn [[Arllechwedd]] yn y gogledd. Yn y dwyrain rhannai ffin â chantref [[Penllyn]] ac yn y de â chwmwd [[Tal-y-bont (cwmwd)|Thal-y-bont]] yng nghantref [[Meirionnydd (cantref)|Meirionnydd]].<ref>Geraint Bowen (gol.), ''Atlas Meironnydd'' (Y Bala, 1975).</ref>
 
Mae'n bosibl fod Ardudwy yn 'wlad' (teyrnas) annibynnol yn y Gymru gynnar. ''Túath'' yw'r gair [[Gwyddeleg]] sy'n cyfateb i 'wlad' / 'teyrnas' yn Gymraeg Canol; ei wraidd yw ''tud'', 'gwlad, pobl'. Dyna a geir yn yr enw Ardudwy (''ar'' + ''tud'' + ''-wy'') a meddylir fod yr enw yn dynodi'r llwyth a fu'n byw yn yr ardal.<ref>Geraint Bowen (gol.), ''Atlas Meironnydd'' (Y Bala, 1975).</ref>
 
Yn ddiweddarach cafodd Ardudwy ei rannu'n ddau gwmwd, gydag [[Afon Artro]] fel ffin rhyngddynt, sef [[Ardudwy Uwch Artro]] ac [[Ardudwy Is Artro]] (eto'n rhan o gantref Dunoding).<ref>Geraint Bowen (gol.), ''Atlas Meironnydd'' (Y Bala, 1975).</ref>
 
Tir gwyllt a mynyddig yw Ardudwy, gyda mynyddoedd y [[Rhinogau]]'n asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu [[Tomen y Mur]] a'r arfordir gan redeg trwy fwlch [[Drws Ardudwy]]. Eithriad yw'r gwastadeddau ar hyd yr arfordir lle ceir yr unig drefi o bwys heddiw. Er na fu erioed yn ardal gyfoethog mae'n llawn hanes a hynafiaethau. Yn [[Harlech]] yn Ardudwy mae llys [[Bendigeidfran]] yn [[Branwen ferch Llŷr|Ail Gainc y Mabinogi]]. [[Ystumgwern]], Is Artro, oedd [[maerdref]] y cwmwd.
 
==Ffynonellau==
*Geraint Bowen (gol.), ''Atlas Meironnydd'' (Y Bala, 1975)
*[[John Edward Lloyd]], ''A History of Wales'' (1911)
 
==Gweler hefyd==
Llinell 19 ⟶ 16:
* [[Phylipiaid Ardudwy]]
* [[Teyrnas Gwynedd]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolen allanol==